| 
             6 Mawrth, 1406 - Hywel Gwynedd, cefnogwr Glyndŵr, cafodd ei ladd ar Fynydd Helygain gan fwrdeisiaid o Fflint.  | 
          
             | 
          
             | 
        
| 
             31 Mawrth, 1406 - Anfonodd Glyndŵr ‘Llythyr Pennal’ at Siarl VI, Brenin Ffrainc. Cliciwch yma  | 
          
             | 
          
             | 
        
| 
             4 Ebrill, 1406 - Robert III wedi marw - Brenin yr Alban a chefnogwr Glyndŵr.  | 
          
             | 
          
             | 
        
| 
             Awst 1406 - Ymosododd Henry Dwn ar Gydweli unwaith eto.  | 
          
             | 
          
             | 
        
| 
             Hydref 1406 - Ildiwyd Gŵyr, Dyffryn Tywi a'r rhan fwyaf o Geredigion i Harri IV - yn ôl pob tebyg oherwydd pardwnau a cyhoeddwyd gan y Tywysog Henry.  | 
          
             | 
          
             | 
        
| 
             18 Tachwedd, 1406 - Ymosododd dynion Glyndŵr â Rhuddlan a lladdwyd Maredudd Ieuan Gwyn, ysbïwr am y Saes.  | 
          
             | 
          
             | 
        
| 
             10 Chwefror, 1407 - Ar ôl Glyndŵr golli cefnogaeth yno ym 1405, rhoddwyd pardyn i denantiaid y rhan fwyaf o Sir Fynwy am 'anfadwaith a gwrthryfeloedd yn erbyn y Saeson’.  | 
          
             | 
          
             | 
        
| 
             Mai 1407 - Goruchwyliodd y Tywysog Harri warchae Aberystwyth.  | 
          
             | 
          
             | 
        
| 
             Awst 1407 - Rhoddwyd Castell Harlech dan warchae hefyd.  | 
          
             | 
          
             | 
        
| 
             23 Tachwedd, 1407 - Llofruddiaeth Dug Orleans ym Mharis - un o gefnogwyr Glyndŵr.  | 
          
             | 
          
             | 
        
| 
             19 Chwefror, 1408 - Henry Percy, Iarll Northumberland a cynorthwywr Glyndŵr, cafodd ei ladd ym Mrwydr Bramham Moor ger Wetherby.  | 
          
             | 
          
             | 
        
| 
             23 Medi, 1408 - Syrthiodd Castell Aberystwyth i'r Saeson ar ôl gwarchae hir.  | 
          
             | 
          
             | 
        
| 
             Chwefror 1409 - Daeth gwarchae Castell Harlech i ben a chymerwyd teulu Glyndŵr i Dŵr Llundain - roedd Edmund Mortimer wedi marw yn y castell rywbryd yn ystod y gaeaf caled.  | 
          
             | 
          
             | 
        
| 
             Mai 1409 - Cafodd amddiffynnwr Castell Aberystwyth, Rhys Ddu, ei arteithio i farwolaeth yn Nhŵr Llundain.  | 
          
             | 
          
             | 
        
| 
             16 Mai, 1409 - ‘Ymosodiadau Mawr Diwethaf’ yn y Gororau - achosodd Glyndŵr banig yng Nghroesoswallt, y Knockin a Rhuthun ac yna symudodd i Sir Amwythig.  | 
          
             | 
          
             | 
        
| 
             Mai 1409 - Cafodd Rhys ap Tudor a Philip Scudamore eu hanafu a'u dal yn wael yn y Trallwng, ac yna'u dienyddio yng Nghaer.  | 
          
             | 
          
             | 
        
      
      
      
      
      
      
      
      
      
      
      
      
        Saesneg
      
      
      Llinell Amser - 1406-1409
Digwyddiad
Delweddau