Glyn Dŵr - Y Gwleidydd

Mae gan Owain delwedd gyhoeddus fel tywysog chwyldroadol a rhyfelwr. Mae’r cyhoedd yn llai ymwybodol o’i sgiliau arswydus yn wleidydd ac yn ddiplomydd.

Roedd Ffrainc a Lloegr yn elynion a gwrthwynebwyr am ganrifoedd ac yn 1337 dechreuodd y Rhyfel Can Mlynedd. Yn ei wrthryfel yn erbyn gormes y goron Seisnig, ymgeisiodd Owain i gael cefnogaeth y Ffrancwyr a oedd wedi sefydlu cysylltiadau â’r Alban ac Iwerddon.
 

Treuliodd Owain Lawgoch – gor-nai Llywelyn Ein Llyw Olaf y mwyafrif o’i fywyd wedi’i alltudio yn Ffrainc fel swyddog yn y fyddin Ffrengig. Roedd yn fygythiad difrifol i’r orsedd Seisnig oherwydd ei hawl i’r llinach frenhinol, yn enwedig pan roddodd Brenin Ffrainc llynges a byddin iddo i oresgyn Cymru yn 1372. Terfynwyd yr ymgyrch. Roedd y Saeson yn ymwybodol iawn o fygythiad Owain, ac anfonwyd John Lamb (Albanwr) i Ffrainc yn 1378 i'w lofruddio.  Efallai bod gwasanaeth Ffrengig Owain wedi bod yn ddylanwadol pan alwodd Glyndŵr am gymorth y Ffrancwyr yn ddiweddarach.
 

Roedd Harri IV wedi’i ymglymu’n drwm mewn ymgyrchoedd drud yn Yr Alban ac yn Iwerddon, ac archwiliwyd ei hawl i’r orsedd Seisnig. Yn 1401 anfonwyd y marchog Cymreig Dafydd ab Ieuan Goch, yn gennad i frenin Yr Alban ar ran Glyndŵr. Yn 1403-4 gweithiodd sgwadron Ffrengig Jean d’Espagne gyda’r Cymry ac anfonodd Owain ei frawd yng nghyfraith John Hanmer, a’i ganghellor Gruffudd Young i Ffrainc. Sefydlwyd cytundeb ar Orffennaf 14eg, 1404.

Gadawodd y fyddin Ffrengig Brest ar Orffennaf 22ain, 1405 gyda 140 o longau yn cario 800 o filwyr arfog, 600 o filwyr bwa croes a 1,200 filwyr gydag offer ysgafn. Fe wnaethant gyrraedd Aberdaugleddau yn gynnar ym mis Awst. Ymunon nhw â dynion Owain ar orymdaith drwy dde Cymru, i mewn i Loegr. Cyrhaeddant Woodbury Hill o fewn 8 milltir o Gaerwrangon. Er ym mis Tachwedd dychwelodd nifer helaeth o’r marchogion Ffrengig i Ffrainc ac yn gynnar ym 1406 dychwelodd y gweddill. Wedi hynny dim ond ymgeision wan a wnaed i ddarparu olynwyr ar ôl hyn ac nid oedd yna unrhyw ymgyrchoedd milwrol cyfunol.
  

Er mawr synod i’r Eglwys Gymreig ym Mhennal ar Fawrth 31ain, 1406, anfonodd Owain Glyndŵr lythyr yn Lladin at frenin Ffrainc Siarl VI (a elwir yn Llythyr Pennal). Dyma ddogfen bwysicaf cyfnod Glyndŵr gan ei bod yn amlygu uchelgais Owain i gael Cymru yn genedl annibynnol, gyda'i phrifysgolion a'i Heglwys ei hun.


Cymdeithas Owain Glyn Dŵr

Diweddariadau Saesneg Chwilio'r Wefan

Gwleidydd