Mae ymaelodi yn helpu'r Gymdeithas mewn sawl ffordd. Mae’r arian yn cynorthwyo’r Gymdeithas i gynnal gweithgareddau sydd yn hybu ei hamcanion. Yn bwysicach fyth, mae’n galluogi’r Gymdeithas i gynnig arweiniad i eraill sydd am ddarganfod mwy am Owain Glyn Dŵr. Yn ogystal, mae'n cyfrannu at ddyrchafu ei ddelwedd ac yn hysbysu pawb - o blant ysgol i weinidogion y llywodraeth- am bwysigrwydd Owain Glyn Dŵr.

Gellir ymaelodi neu adnewyddu aelodaeth trwy gwblhau ac argraffu'r ffurflen isod. Anfonwch eich ffurflen at yr Ysgrifennydd Aelodaeth, os gwelwch yn dda (gwelwch fanylion cysylltu ar dudalen Cysylltu â Ni).

Caiff ymgeiswyr ac aelodau eu hannog i ddefnyddio archeb banc sefydlog gan ddileu'r angen i gofio adnewyddu pob blwyddyn ac mae'n arbed amser a chost i bawb.

Os ydych yn drethdalwyr yng ngwledydd Prydain, mae cwblhau datganiad Rhodd Cymorth yn ffynhonnell incwm ychwanegol i'r Gymdeithas, heb unrhyw gost ychwanegol i'r aelod.

Ffurflen Gais

Ffurflen Rhodd Cymorth

Cymdeithas Owain Glyn Dŵr

Diweddariadau Saesneg Chwilio'r Wefan

Ymunwch â Ni / Aelodaeth