Credir y ganwyd Owain ap Gruffydd Fychan yn 1359. Yn ddyn ifanc, astudiodd  y Gyfraith yn Llundain a gwasanaethodd gydag Iarll Arundel yn ymgyrchoedd Richard yr Ail yn yr Alban ac Iwerddon. Roedd yn berchen ar stadau yn Sycharth (ger Croesoswallt) yng Nglyndyfrdwy (gerllaw Corwen) ac yn ne-orllewin Cymru.

O'r nawfed ganrif ymlaen bu'r beirdd yn cwyno fod y Saeson yn gormesi'r Cymry. Roeddynt yn rhagweld dyfodiad Mab Darogan fyddai'n rhyddhau'r genedl o'i chaethiwed.  I'r Cymry, Owain Glyn Dŵr oedd y dyn i'w harwain yn eu brwydr dros ryddid.

 Dioddefodd y Cymry gyfreithiau gormesol a arweiniodd at ddicter yn erbyn coron Lloegr. Ffrwydrodd y dicter hwn  ar Fedi 16eg 1400 pan gyfarfu dros 300 o gefnogwyr Owain yng Nglyndyfrdwy a’i gyhoeddi’n Tywysog Cymru. Dilynwyd hyn gan anrheithio trefi Rhuthun, Dinbych, Rhuddlan, Fflint, Penarlâg, Croesoswallt a’r Trallwng. Ymatebodd byddin Harri IV trwy orymdeithio i ogledd Cymru.


Gorchfygwyd byddinoedd y Saeson a’r Ffleminaid yn 1401 yn Hyddgen; cychwynnodd Harri IV ymgyrch i mewn i Dde Cymru a gosododd cyfreithiau llym iawn ar y Cymry. Yn 1402 enillodd dynion Owain buddugoliaeth enwog yn erbyn byddin Edmund Mortimer ym Mryn-glas (Pilleth) ac erbyn 1404 roedd ymgyrch Owain ar ei huchel. Fe gipiodd Cestyll Harlech ac Aberystwyth ac fe alwodd Senedd ym Machynlleth.

Yn 1405 arwyddodd Owain gytundeb â Thomas Percy o Northumberland ac Edmund Mortimer i rannu’r deyrnas yn dair rhan (Y Cytundeb Tridarn). Byddai ffin Cymru yn ymestyn mor bell â’r Hafren, i ‘Six Ashes’ (10 milltir o Firmingham) a tharddiadau’r Trent a’r Merswy. Ymgyrchodd dynion Owain i Loegr a chyrhaeddon nhw o fewn ychydig filltiroedd o Gaerwrangon.

 Yn 1406 anfonodd lythyr at Frenin Ffrainc (Y Llythyr Pennal). Yn y llythyr mae’n amlinellu ei uchelgeisiau ar gyfer eglwys annibynnol i Gymru a dwy brifysgol- un ar gyfer gogledd Cymru ac un i de Cymru. Ond erbyn 1408 roedd ymgyrch Owain yn dirywio ac fe gollodd Cestyll Aberystwyth a Harlech (cartref llys Owain). Pan gipiwyd Castell Harlech cafodd nifer o’u deulu i’w dal a’u hanfon i Dŵr Llundain. Yn ôl rhai ffynonellau mae’n debygol bu Owain farw yn 1415. Mae blynyddoedd olaf ei fywyd yn ddirgelwch mawr ac nid oes yna dystiolaeth derfynol o’i fan claddu.

Pwy Oedd Owain Glyn Dŵr?

Milwr   Diplomydd   Gwleidydd

Sêl Fawr Glyn Dŵr

Cymdeithas Owain Glyn Dŵr

Diweddariadau Saesneg Chwilio'r Wefan

Pwy Oedd Owain Glyn Dŵr?