| 
             21 Chwefror, 1401 - Adroddodd y Senedd San Steffan fod y Gymry 'mewn hwyliau peryglus'.  | 
          
             | 
        
| 
             Mawrth 1401 - Cyfreithiau Penydiol yn erbyn y Cymry.  | 
          
             | 
        
| 
             1 Ebrill, 1401 - Cipiodd Gwilym a Rhys ap Tudur Gastell Conwy.  | 
          
             | 
        
| 
             31 Mai, 1401 - Roedd Henry Hotspur yn Nolgellau ar gyfer Brwydr Cadair Idris - ac tua'r un pryd roedd John Charleton, Arglwydd Powys, yn ymosod ar luoedd Glyndŵr ger Dinas Mawddwy.  | 
          
             | 
        
| 
             Mehefin 1401 - Ymosododd Hywel Sele ar Glyndŵr yn Nannau, ond cafodd ei ladd a chafodd ei gorff ei ollwng i mewn i goeden wag.  | 
          
             | 
        
| 
             Diwedd Mehefin 1401 - Brwydr Hyddgen, Pumlumon (22 Mehefin, efallai).  | 
          
             | 
        
| 
             24 Mehefin, 1401 - Cymerodd Harri Hotspur rheolaeth Castell Conwy.  | 
          
             | 
        
| 
             Awst 1401 - Mae'n debyg, ymosododd Glyndŵr ar Abaty Cwm Hir, ac yna Sir Faesyfed, Trefaldwyn a'r Trallwng.  | 
          
             | 
        
| 
             Hydref 1401 - Mewn ymateb i Frwydr Hyddgen, ymosododd Harri IV a'i filwyr ar Abaty Ystrad Fflur yn ystod 'Alltaith Frenhinol'.  | 
          
             | 
        
| 
             9 Hydref, 1401 - Cafodd Llywelyn ap Gruffudd Fychan ei grogi, ei ddiberfeddu a’i chwarteru yn Llanymddyfri gan Harri IV.  | 
          
             | 
        
| 
             2 Tachwedd, 1401 - Brwydr Twtil yng Nghaernarfon.  | 
          
             | 
        
| 
             29 Tachwedd, 1401 - Agorodd Glyndŵr drafodaethau diplomyddol â Brenin Robert o’r Alban ac arglwyddi Iwerddon, ac felly’n datgan ei hun yn frenin annibynnol.  | 
          
             | 
        
      
      
      
      
      
      
      
      
      
      
      
      
      
        Saesneg
      
      
      Llinell Amser - 1401
Digwyddiad
Delweddau