| 
             1359 - Yn ôl pob tebyg, ganwyd Owain ap Gruffudd Fychan (Owain Glyndŵr) yn Sycharth, ond efallai ei fod wedi ei eni yng Nglyndyfrdwy neu Drefgarn Owain.  | 
          
             | 
        
| 
             6 Ionawr, 1367 - Ganwyd Richard II yn Bordeaux.  | 
          
             | 
        
| 
             3 Ebrill, 1367 - Ganwyd Harri Bolingbroke yn Swydd Lincoln.  | 
          
             | 
        
| 
             1370 - Erbyn y dyddiad yma roedd dad Glyndŵr, Gruffudd Fychan, wedi marw. Daeth Owain, a oedd yn dal dan oed, yn ward frenhinol - o bosibl wedi'i neilltuo i Iarll Arundel fel ei warcheidwad.  | 
          
             | 
        
| 
             1376 - Astudiodd Glyndŵr y Gyfraith yn Neuaddau'r Brawdlys yn Llundain.  | 
          
             | 
        
| 
             16 Gorffennaf, 1377 - Coronwyd Richard II yn Frenin Lloegr.  | 
          
             | 
        
| 
             1383 - Priododd Glyndŵr â Marged, merch Syr Dafydd Hanmer, yn Eglwys Hanmer.  | 
          
             | 
        
| 
             Mawrth 1384 - Gwasanaethodd Glyndŵr dan Syr Gregory Sais yn Berwick ar Tweed gyda'i frawd, Tudur.  | 
          
             | 
        
| 
             Awst 1385 - Cymerodd Glyndŵr ran yn ymosodiad Richard II ar yr Alban.  | 
          
             | 
        
| 
             3 Medi, 1386 - Rhoddodd Glyndŵr dystiolaeth mewn prawf ynglŷn â hawliau herodrol Arglwydd Scrope a Syr Robert Grosvenor.  | 
          
             | 
        
| 
             16 Medi, 1386 - Ganwyd Harri o Drefynwy.  | 
          
             | 
        
| 
             1387 - Arweiniodd marwolaeth Syr David Hanmer at hanner-ymddeoliad Glyndŵr i reoli ei ystadau.  | 
          
             | 
        
| 
             Mawrth, 1387 - Gwasanaethodd Owain a Tudur yn sgweieriaid i Iarll Arundel, a chymerodd Glyndŵr ran ym mrwydr fôr Cadzand ger yr arfordir Fflandrys.  | 
          
             | 
        
| 
             19 Rhagfyr, 1387 - Ymladdodd Glyndŵr ym Mrwydr Radcot Bridge, efallai.  | 
          
             | 
        
| 
             4 Awst, 1388 - Daeth Reginald de Grey yn 3ydd Barwn Grey o Ruthun.  | 
          
             | 
        
| 
             12 Gorffennaf, 1397 - Cafodd Richard Fitzalan, Iarll Arundel, ei arestio ac yna ei ddienyddio ar 21 Medi.  | 
          
             | 
        
| 
             20 Gorffennaf, 1398 - Lladdwyd Roger Mortimer, 4ydd Iarll y Mers, yn Iwerddon.  | 
          
             | 
        
| 
             13 Hydref, 1399 - Coronwyd Bolingbroke yn Harri IV Lloegr, a gwnaeth ei fab hynaf yn Dywysog Cymru am y Sais.  | 
          
             | 
        
      
      
      
      
      
      
      
      
      
      
      
      
      
      
      
      
      
      
      
        Saesneg
      
      
      Llinell Amser - Cyn 1400
Digwyddiad
Delweddau