Delweddau

c 1335-59


Ganwyd Owain ap Gruffydd Fychan (Owain Glyn Dŵr).

c 1375


Owain yn astudio’r gyfraith yn Neuaddau'r Brawdlys yn Llundain

c 1383


Priodi Margaret, merch Sir David Hanmer.

1384


Gwasanaeth milwrol dan Sir Gregory Sais yn Berwick on Tweed gyda’i frawd Tudur

1385

Awst

Cymryd rhan yn ymosodiad Brenin Richard II ar yr Alban.

1387


Owain a Tudur yn gwasanaethu yn sgweieriaid i Iarll Arundel.

1394


Cymryd rhan yn ymgyrch y Brenin Richard yn yr Iwerddon

1399


Richard II yn cael ei ddiorseddu a’i lofruddio. Henry Bolingbroke yn dod yn Henry IV. Cyhoeddi mai ei fab, Harri o Drefynwy, yw  ‘Tywysog Cymru’.

1400


Owain yn cwyno i’r Senedd fod yr Arglwydd Grey o Ruthun wedi cipio tir oedd yn perthyn iddo. Dilynwyr Owain yn ei gyhoeddi’n Dywysog Cymru yng Nglyndyfrdwy ar Fedi 16. Owain a’i gynghreiriaid yn ymosod a llosgi Rhuthun, yna’n symud i Ddinbych, Rhuddlan, y Fflint, Penarlâg a Holt yn ogystal â Chroesoswallt a'r Trallwng. Cawsant eu gorchfygu mewn brwydr i’r gogledd o’r Trallwng. Ar ei ffordd yn ôl o’r Alban anelodd Harri IV am yr Amwythig, yna trwy ogledd Cymru i Sir Fôn, gan losgi ac ysbeilio.  

 Atafaelodd ystadau Owain a’i berthnasau.   

1401

Ebrill 1af
(Dydd Gwener y Groglith)

Cipiodd Gwilym a Rhys ap Tudur gastell Conwy. Tywysog Harri a Hotspur (mab Iarll Northumberland) yn derbyn gorchymyn i ddod a'r gwrthryfel i ben.


Mai/Gorffennaf

Brwydr Hyddgen, ger Pumlumon; byddinoedd Owain yn fuddugol. Mae’n mynd ymlaen i Sir Faesyfed.


Hydref

Gorymdeithiodd y Brenin Harri am yr ail dro i Gymru gan anrheithio a dienyddio cefnogwyr Owain. Cestyll Aberystwyth a Harlech dan warchae gan gefnogwyr Owain ond methwyd cipio’r cestyll. Owain yn dechrau trafodaethau diplomyddol â Brenin Robert o’r Alban, a thrwy hynny yn datgan ei hun yn frenin ar wlad annibynnol.

1402

Ebrill

Owain yn dal Arglwydd Grey o Ruthun


Mehefin

Brwydr Bryn Glas ger Pyllalai (Pilleth). Owain yn trechu Edmund Mortimer; gwrthododd y Brenin dalu pridwerth Mortimer. Yn y cyfamser  ymunodd Mortimer gydag Owain. Owain yn meddiannu Morgannwg a Gwent.


Medi

Y Brenin Harri yn arwain ymgyrch arall i Gymru ond yn  cael ei drechu gan y glaw!


Tachwedd

Edmund Mortimer yn priodi Catrin, merch Owain

1403

Mai

Harri, ‘Tywysog Cymru’, yn ymosod ar ac yn llosgi cartrefi Owain yn Sycharth a Glyndyfrdwy. Owain yn ymgyrchu yn  ne-orllewin Cymru, trwy Aberhonddu; cipio cestyll Caerfyrddin a Chastellnewydd Emlyn


Gorfennaf 21ain

Byddin Tywysog Harri yn trechu ac yn lladd Hotspur yn Amwythig ('roedd Hotspur yn frawd yng nghyfraith i Mortimer).


Medi

Pedwerydd ymgyrch y Brenin i Gymru yn aneffeithiol.


Tachwedd

Llynges Ffrengig yn ymuno ag Owain i ymosod ar gastell Caernarfon.

1404

Mai

Cestyll Aberystwyth a Harlech wedi’u cipio gan Glyn Dŵr.


Gorffennaf

Owain yn rheoli’r rhan fwyaf o Gymru ond y Saeson yn dal eu gafael ar gestyll mawr Edward I yng ngogledd Cymru.

Cynghrair ffurfiol â Brenin Ffrainc.


Mehefin/Gorfennaf

Owain yn cynnal senedd ym Machynlleth (ac yn ôl pob tebyg un yn Harlech y flwyddyn ganlynol). Cael ei goroni’n Dywysog Cymru.

1405

Chwefror

Cytundeb Tridarn rhwng Owain, Edmund Mortimer a’r Iarll Northumberland (tad Hotspur). Yn ôl y Cytundeb 'roedd Owain  i reoli Cymru a siroedd y gororau tra byddai Mortimer yn rheoli  de Lloegr, a Northumberland y gogledd. 'Roedd ffiniau  Cymru yn ymestyn i darddiadau’r Merswy a’r Trent ac o fewn ychydig  filltiroedd i Birmingham.


Mawrth 11eg

Byddin Tywysog Harri yn trechu’r fyddin Gymreig oedd yn ymosod ar gastell y Grysmwnt.


Mai 5ed

Brwydr Pwll Melyn (ger Brynbuga). Y Cymry wedi eu trechu; Tudur, brawd Owain, yn cael ei ladd. Cipiwyd Gruffudd, mab Owain, a’i anfon i'r Tŵr (lle bu farw yn ddiweddarach).


Mehefin

Byddin Lloegr yn ail-gipio castell Biwmares ac yn anrheithio Sir Fôn.


Awst

Llynges Ffrengig yn hwylio i Aberdaugleddau ac ymuno â chefnogwyr Owain. Ymosodwyd ar nifer o arisynau a threfi’r Saeson. Gyda'i gilydd mi wnaethant orymdeithio tuag at Gaerwrangon. Daethant wyneb yn wyneb â byddin Harri IV yn Woodbury Hill ger Caerwrangon. Ni fu brwydr a dychwelodd y fyddin i Gymru.

1406

Mawrth 8fed

Mae llythyr gan Siarl VI o Ffrainc yn ysbrydoli llunio Llythyr Pennal (nawr yn cael ei gadw yn yr archifau yn Ffrainc) sy’n amlinellu cynlluniau uchelgeisiol  Owain ar gyfer Cymru - Eglwys Gymreig annibynnol, dwy brifysgol a.y.b.


Awst

Y Brenin yn ceisio codi gwarchae’r Cymry ar gastell Coety ond yn cael ei drechu gan y glaw.

1407


Tywysog Harri yn methu ail-gipio Aberystwyth.

1408

Medi

Tywysog Harri yn  ail-gipio castell Aberystwyth ac yn symud ymlaen i gipio castell Harlech (Llys Owain) ynghyd â’r mwyafrif o deulu Owain. Edmund Mortimer yn marw yn ystod y gwarchae a chaiff y lleill eu hanfon i’r Tŵr.

1409-1415


O hyn ymlaen 'roedd Owain a’i gefnogwyr yn ymladd herwryfel. Erbyn tua 1413 roedd Owain yn cuddio.  Daeth y Tywysog Harri wedi yn dilyn marwolaeth ei dad; 'roedd yn barod i drafod telerau ac mae’n cynigiodd bardwn, ond nid wnaeth Owain ymateb.

1415


Awgryma’r ychydig o dystiolaeth hanesyddol sydd gennym fod Glyn Dŵr wedi marw ym 1415, ond ni wyddom yr union leoliad na  dyddiad

Saesneg

Llinell Amser - Cryno

                    Digwyddiad                                                                                                                                                                                  

Print
Dangos y Ddewislen Uchaf