| 
             14 Chwefror, 1400 - Mae'n debyg bod Richard II wedi marw yng Nghastell Pontefract.  | 
          
             | 
        
| 
             Gwanwyn 1400 - Cwynodd Glyndŵr i Senedd San Steffan fod Reginald de Grey wedi atafaelu ei dir, ond gwrthodwyd ei ble.  | 
          
             | 
        
| 
             16 Medi, 1400 - Cyhoeddwyd Glyndŵr yn Dywysog Cymru yng Nglyndyfrdwy.  | 
          
             | 
        
| 
             18 Medi, 1400 - Yn gyntaf, ymosododd Glyndŵr a'i gefnogwyr ar Ruthun - cartref ei gymydog a'i elyn, Reginald de Grey.  | 
          
             | 
        
| 
             18 - 23 Medi, 1400 - Yna ymosododd Glyndŵr a'i gefnogwyr ar Ddinbych, Rhuddlan, y Fflint, Penarlâg, Holt, Croesoswallt a'r Trallwng mewn olyniaeth gyflym.  | 
          
             | 
        
| 
             24 Medi, 1400 - Gorchfygwyd Glyndŵr a'i ddynion ym Mrwydr Efyrnwy, ger y Trallwng, gan fyddin dan arweiniad Hugh Burnell.  | 
          
             | 
        
| 
             28 Medi, 1400 - Gadawodd Harri IV yr Amwythig i ymosod ar Ogledd Cymru ar ei ‘Alltaith Frenhinol’ gyntaf.  | 
          
             | 
        
| 
             15 Hydref, 1400 - Dychwelodd Harri IV i'r Amwythig heb fawr ddim i'w ddangos am ei ymdrechion.  | 
          
             | 
        
| 
             8 Tachwedd, 1400 - Cymerodd Harri IV ystadau Glyndŵr a rhoddodd hwy i John Beaufort, ei hanner-brawd.  | 
          
             | 
        
      
      
      
      
      
      
      
      
      
        Saesneg
      
      
      Llinell Amser - 1400
Digwyddiad
Delweddau