Mae’r cofadail yn fonolith llechen maint  5m o Chwarel Penrhyn ger Bethesda yng Ngogledd Cymru. Cafodd ei rhoddi’n garedig gan McAlpine Ltd. Mae corf y monolith tua 1m lled a dyfnder. Mae wedi ei leoli ym Machynlleth.


Mae pen y cofadail yn arddangos Sêl Fawr Owain Glyndŵr. Mae’n oreurog i roi fwy o amlygrwydd. Caiff y Sêl Fawr ei chynnwys i bwysleisio arwyddocâd Owain yn wleidydd a chaiff ei hamgylchu gyda’r geiriau -

   Owain Glyndŵr   Tywysog Cymru   Prince of Wales.


 Mae’r plinth yn arddangos cerdd wedi ei hysgrifennu yn y gynghanedd mewn ffurf pennill traddodiadol ac adnabyddus yn y Gymraeg sef yr englyn. Dyma waith bardd lleol Dafydd Wyn Jones. Enillodd gystadleuaeth Talwrn Y Beirdd ar Radio Cymru i greu englyn er cof Owain Glyndŵr.


Dyma englyn Mr Jones:


Owain, tydi yw'n dyhead,-Owain,

Ti piau'n harddeliad,  

Piau'r her yn ein parhad

A ffrewyll ein deffroad.


Yn gyfrifol am gynllunio a cherflunio’r  cofadail oedd y ceinlythrennydd a’r cerflunwyr rhyngwladol enwog Ieuan Rees. Cafodd ei dadorchuddio ar dir Y Plas, Machynlleth ar Fedi 16eg 2000, sef chwe chan mlwyddiant y dydd y cyhoeddwyd Owain yn Dywysog Cymru.  

Cymdeithas Owain Glyn Dŵr

Diweddariadau Saesneg Chwilio'r Wefan

Y Gofadail