Cafodd Gwrthryfel Glyndŵr gefnogaeth y mwyafrif o'i gyd-Gymry - ond nid pob un. Roedd ei wrthwynebwyr pennaf yn aml yn ddisgynyddion i'r teuluoedd Seisnig oedd wedi ennill tiroedd ar ôl concwest Edward I ym 1282, neu deuluoedd o Gymru a elwodd.


 RoeddArfau Dafydd Gam Dafydd Gam, er enghraifft, yn aelod o deulu a oedd wedi cefnogi arglwyddi Bohun o Aberhonddu am nifer o flynyddoedd ac, yn y pen draw, Tŷ Caerhirfryn a Henry Bolingbroke. Darparodd Dafydd wybodaeth leol a fu'n gymorth i fyddinoedd Lloegr ar eu hymgyrchoedd i Dde Cymru, ac ym mrwydr Pwll Melyn, yn benodol. Cafodd ei gipio gan Glyndŵr ym 1412 a thalwyd pridwerth sylweddol am ei ryddhau.

 

 Roedd Hywel Sele o Nannau yn gefnder pell i Owain a oedd yn ôl yr hanes wedi ceisio ei ladd ar ystâd Hywel ger Dolgellau. Dywed y chwedl iddo gael ei ladd gan Glyndŵr, a guddiodd ei gorff mewn boncyff coeden. Bu nifer o Gymry eraill yn ysbiwyr, fel Maredudd Ieuan Gwyn o Rhuddlan, ac Ieuan ap Maredudd a David Whitmore o Sir y Fflint. Fe wyddom bod Ieuan a Whitmore wedi mynychu senedd Glyndŵr yn Harlech i gael gwybodaeth ar gyfer Harri IV, er enghraifft.


 Roedd pobl Cymru wedi dioddef amodau garw a threthi trwm am nifer o flynyddoedd, ac roedd Gwrthryfel Owain yn ganlyniad i aflonyddwch cynyddol ar ôl i Harri IV drawsfeddiannu coron Lloegr. Er i Saeson dylanwadol drosglwyddo eu teyrngarwch i Glyndŵr yn ystod y Gwrthryfel, fel Edmund Mortimer a theulu Percy, roedd Henry yn dal i allu dibynnu ar nifer fawr o ddynion profiadol i'w gefnogi.

 

 Roedd RCastell Ruthineginald de Grey, arglwydd Ruthun, yn gymydog i Glyndŵr. Bu anghydfod tir hir-sefydlog rhwng y ddau a rhoddwyd yr anghydfod rhyngddynt fel prif achos y Gwrthryfel: roedd de Grey yn ffrind da i Harri IV ac wedi dylanwadu ar ei driniaeth o Owain. Llwyddodd dynion Glyndŵr i gipio Reginald ym mis Ebrill 1402, fodd bynnag, a chodwyd pridwerth mawr i’w ryddhau - yr ad-daliad bron â gwneud ei deulu'n fethdalwyr.


 Arweiniodd amryw o bobl gyrchoedd yn erbyn Glyndŵr: yn ystod wythnos gyntaf yr ymgyrch, bu Robert Mascy a Hugh Burnell yn ymladd yn erbyn dynion Glyndŵr ger y Fflint a’r Trallwng, yn y drefn honno, a gwnaeth Thomas, yr Arglwydd Carew yr un peth ger Sanclêr ym 1403. Arweiniodd John Charlton o Gastell Powys llu o Loegr mewn ysgarmes yn Ninas Mawddwy ym 1401 ac yna amddiffynnodd ei frawd iau, Edward, y Trallwng yn erbyn ymosodiadau gan ddynion Owain hyd at ei farwolaeth ym 1421.


 Daeth bHarri Vyddin Lloegr yn fwy effeithlon o dan arweinyddiaeth mab Harri IV, y Tywysog Harri. Enillodd Richard Beauchamp, iarll Warwick, frwydr yn Campstone Hill ger Y Grysmwnt yn ystod haf 1404, a blwyddyn yn ddiweddarach cafodd y Saeson ddwy fuddugoliaeth fwy arwyddocaol yn Y Grysmwnt a Brynbuga. Gwell strategaeth gan y Saeson oedd yn gyfrifol am y buddugoliaethau hyn, a phrofiad milwrol nifer o ddynion, megis Gilbert, y barwn Talbot; William Newport; John Greyndor; Richard, arglwydd Grey Codnor; Thomas Fitzalan, iarll Arundel; ac Edward, dug Efrog.

Gwrthwynebwyr

Print
Saesneg Dangos y Ddewislen Uchaf