DechreuoGlyndyfrdwydd Gwrthryfel Glyndŵr ar Fedi 16eg, 1400 yng Nglyndyfrdwy. Yno cyhoeddwyd Owain yn Dywysog Cymru gan fintai o’i gefnogwyr. Roedd llawer ohonynt yn ffyddiog mai Owain oedd y 'Mab Darogan' a’r dyn gorau i arwain y Cymry yn erbyn eu gormeswyr Seisnig.


 Deuddydd yn hwyrach ymosododd gwŷr Owain ar Ruthun, a daeth nifer o gyrchoedd i ben pan eu heriwyd gan fyddin y Saeson ger y Trallwng ychydig ddyddiau'n hwyrach.


 Ymatebodd Harri IV trwy arwain y cyntaf o'i Alldeithiau Brenhinol i Gymru i arddangos ei rym ac, fel gyda phob un o'i oresgyniadau diweddarach, dychwelodd i Loegr yn fuan wedi hynny heb fawr ddim i ddangos am ei ymdrechion.


 Enillodd y Gwrthryfel fomentwm ar ôl i nifer o Gyfreithiau Penydiol yn erbyn y Cymry gael eu cyhoeddi yn San Steffan ym 1401. Dychwelodd llawer o weithwyr o Gymru adref o Loegr i ymuno â byddin Owain, ynghyd â nifer o fyfyrwyr Prifysgol Rhydychen.


 Defnyddiodd lluoedd Glyndŵr strategaethau gwahanol iawn i'w gwrthwynebwyr. Defnyddiwyd ymosodiadau gerila a rhyfela gwarchae cymaint â phosibl, ond roedd y Saeson yn ffafrio brwydrau mawr.


 Erbyn diwCastell Harlechedd 1403, roedd Glyndŵr yn rheoli Cymru gyfan fwy neu lai, gyda'r Saeson wedi'u cyfyngu i raddau helaeth i'w cestyll a'r trefi oedd yn eu hamgylchynu.


 Pan gwympodd Castell Harlech ddechrau 1409, collodd Glyndŵr nid yn unig ei gartref a'i ganolfan ond hefyd ei wraig, ei ferch, Catrin, a'i phlant. Arweiniodd ei ymgyrch fawr olaf i'r Gororau yn ddiweddarach y flwyddyn honno.


 Parhaodd Owain fel pennaeth y Gwrthryfel tan 1412, pan ymddengys bod yr arweinyddiaeth wedi trosglwyddo i'w fab, Maredudd. Ychydig a wyddys am symudiadau Glyndŵr yn ystod ei ddyddiau olaf, ond parhaodd y Gwrthryfel tan 1421 pan berswadiwyd Maredudd i dderbyn pardwn Harri V.


 Yn ystod y Gwrthryfel, roedd lluoedd Lloegr a Chymru wedi defnyddio chevauchée - polisi daear gras - er mwyn amddifadu eu gelynion o fwyd a nwyddau, ac arweiniodd hyn at ddinistrio llawer o'n cefn gwlad. Aeth Cymru ymlaen i ddioddef blynyddoedd lawer o galedi yn dilyn y Gwrthryfel wrth i ddirwyon a threthi gynyddu'n barhaus.


* Gweler ein hadran Llyfryddiaeth am awgrymiadau ar gyfer darllen pellach.

Crynodeb Gwrthryfel

Print
Saesneg Dangos y Ddewislen Uchaf