Dyma’r golled fwyaf arwyddocaol dioddefodd byddin Owain mewn brwydo agored. Rydym yn credu roedd y frwydr ar Fai’r 5ed 1405 ac mae hyn yn fan arwyddocaol yn yr ymgyrch. O’r man yma dechreuodd ymgyrch Owain golli momentwm.


Dan awdurdod Gruffydd, mab hynaf Owain, roeddent yn ceisio ail gipio Castell Brynbuga pa ddaeth byddin sylweddol dan arweiniad Arglwydd Grey o Gondor yn eu herbyn. Aelod blaenllaw o fyddin Grey oedd gelyn mawr Owain, Dafydd Gam. Roedd o wedi cynllunio i ladd Owain. Yn hwyrach yn ei ymgyrch, cipiodd Owain Dafydd Gam ond aeth Dafydd ymlaen i ymladd ym Mrwydr Agincourt ble y bu farw.


Mae nifer o ffynonellau yn amrywio’n fawr yn ôl y nifer oedd yn gysylltiedig â’r frwydr. Ond er hynny maent wedi cytuno  roedd y golled yn fawr iawn. Yn ôl Adam o Frynbuga cipiwyd 300 o ddynion Owain ac fe dorrwyd eu pennau o flaen y castell ar ôl y frwydr. Dioddefodd Owain Glyn Dŵr colled bersonol ofidus gyda marwolaeth ei frawd (Tudur) yn y frwydr a chipiwyd ei fab (Gruffydd) a chafodd ei anfon at Dŵr Llundain ble bu farw o’r pla chwe blynedd yn ddiweddarach. Ymysg y Cymry y bu farw oedd Hopkins ap Tomos - rhyfelwr adnabyddus- a John ap Hywel, yr abad Sistersaidd o Abaty Llantarnam- milwr nodedig ac arweinydd ysbrydol ym myddin Owain

Brwydr Pwll Melyn (Brynbuga)

Print
Saesneg Dangos y Ddewislen Uchaf