Print

                                       Digwyddiad                                                                                                                                                                                                          

Delweddau (Treigl)

Saesneg

Llinell Amser - 1404

Dangos y Ddewislen Uchaf

Gwanwyn 1404 - Cymerodd Glyndŵr gestyll Cricieth, Aberystwyth & Harlech.


Mai 1404 - Ymosododd Glyndŵr a'i filwyr ar Castell Coety.


10 Mai, 1404 - Cynhaliodd Glyndŵr gynhadledd yn Nolgellau lle penododd Gruffudd Yonge fel ei Ganghellor a John Hanmer fel ei Lysgennad Arbennig.


Mehefin 1404 - Ar ôl iddynt roi Castell Coety dan warchae, fe wnaeth dynion Glyndwr barhau â'u hymgyrch trwy Morgannwg.


Mehefin 1404 - Brwydr Bryn Owain, ger Y Bont-faen (yn ôl Iolo Morgannwg).


 Mehefin 1404 - Ymosododd Glyndŵr ar gestyll a threfi ym Mro Morgannwg, gan gynnwys Castell Caerdydd.


10 Mehefin, 1404 - Ymosododd Glyndŵr a'i filwyr ar Ergyng.


21 Mehefin, 1404 - Senedd gyntaf Glyndŵr ym Machynlleth.


14 Gorffennaf, 1404 - Gorffennodd Gruffudd Yonge a John Hanmer gytundeb ffurfiol â Charles VI ym Mharis.


Awst 1404 - Ymosododd Henry Dwn ar Gydweli unwaith eto.


20 Awst, 1404 - Ar ôl cael ei drechu'n drwm ym Mrwydr Mynydd Camstwn (ger Y Grysmwnt), enillodd fyddin Glyndŵr Brwydr Craig y Dorth (ger Trefynwy).


Medi 1404 - Cafodd Castell Biwmares ei ddal gan carfan Gymro.


14 Tachwedd, 1404 - Methodd y Saeson â thorri'r gwarchae yng Nghastell Coety.