14 Chwefror, 1400 - Mae'n debyg bod Richard II wedi marw yng Nghastell Pontefract.


Gwanwyn 1400 - Cwynodd Glyndŵr i Senedd San Steffan fod Reginald de Grey wedi atafaelu ei dir, ond gwrthodwyd ei ble.


16 Medi, 1400 - Cyhoeddwyd Glyndŵr yn Dywysog Cymru yng Nglyndyfrdwy.


18 Medi, 1400 - Yn gyntaf, ymosododd Glyndŵr a'i gefnogwyr ar Ruthun - cartref ei gymydog a'i elyn, Reginald de Grey.


18 - 23 Medi, 1400 - Yna ymosododd Glyndŵr a'i gefnogwyr ar Ddinbych, Rhuddlan, y Fflint, Penarlâg, Holt, Croesoswallt a'r Trallwng mewn olyniaeth gyflym.


24 Medi, 1400 - Gorchfygwyd Glyndŵr a'i ddynion ym Mrwydr Efyrnwy, ger y Trallwng, gan fyddin dan arweiniad Hugh Burnell.


28 Medi, 1400 - Gadawodd Harri IV yr Amwythig i ymosod ar Ogledd Cymru ar ei ‘Alltaith Frenhinol’ gyntaf.


15 Hydref, 1400 - Dychwelodd Harri IV i'r Amwythig heb fawr ddim i'w ddangos am ei ymdrechion.


8 Tachwedd, 1400 - Cymerodd Harri IV ystadau Glyndŵr a rhoddodd hwy i John Beaufort, ei hanner-brawd.


Print

                                       Digwyddiad                                                                                                                                                                                                          

Delweddau (Treigl)

Saesneg

Llinell Amser - 1400

Dangos y Ddewislen Uchaf