22 Chwefror, 1403 - Rhyddhawyd tref yr Hôb gan milwyr Glyndŵr.


15 Mai, 1403 - Dinistriodd y Tywysog Harri - mab Harri IV - gartrefi Glyndŵr yn Sycharth a Glyndyfrdwy.


Mehefin 1403 - Gorchmynnodd y Tywysog Harri i'r beilïaid yn Cantref Cilgwri wahardd gwerthu grawn neu ddarpariaethau i Gymry'r Fflint neu rannau eraill o Gymru.


24 Mehefin, 1403 - Ymosododd Cymry Brycheiniog ar Castell Aberhonddu.


3 Gorffennaf, 1403 - Ar ôl iddynt orfodi Castell Llanymddyfri dan warchae, parhaodd y fyddin Glyndŵr i lawr dyffryn Tywi.


3 Gorffennaf, 1403 - Yn Llandeilo Fawr, ymunodd Glyndŵr â Henry Dwn, a oedd wedi ymosod ar Gastell Dinefwr.


5 Gorffennaf, 1403 - Ymosododd Glyndŵr a 800 filwyr ar Gastell Carreg Cennen, a amddiffynwyd gan John Scudamore.


Gorffennaf 1403 - Cymerodd Glyndwr gestyll Dryslwyn, Llansteffan a Chastell Newydd Emlyn - yn ogystal â Chaerfyrddin ar 6 Gorffennaf.


8 Gorffennaf, 1403 - Ymwelodd Glyndŵr â Hopcyn ap Tomas ab Einion yn Nhalacharn am gyngor achos roedd Hopcyn yn 'feistr o Brut'.


11 Gorffennaf, 1403 - Fe wnaeth dynion yr Arglwydd Carew drechu rhai o fyddin Glyndŵr ger Sanclêr.


21 Gorffennaf, 1403 - Brwydr Amwythig.


Gorffennaf/Awst 1403 - Symudodd Glyndŵr trwy Dde Cymru - ymosododd Hywel Gwynedd yn y Gogledd.


13 Awst, 1403 - Arweiniodd Henry Dwn a'i fab ymosodiad ar Gastell Cydweli.


24 Medi, 1403 – Cyrhaeddodd Harri IV yng Nghaerfyrddin ar 'Alltaith Frenhinol'.


Tachwedd - Ymunodd llynges Ffrengig â Glyndŵr i ymosod ar Gastell Caernarfon.


Rhagfyr 1403 - Y rhan fwyaf o Gymru dan reolaeth Glyndŵr.


Print

                                       Digwyddiad                                                                                                                                                                                                          

Delweddau (Treigl)

Saesneg

Llinell Amser -1403

Dangos y Ddewislen Uchaf