Ewch I'r Top

Roedd Owain Glyn Dŵr yn Arglwydd Glyndyfrdwy a Cynllaith sydd ar y naill ochr o Gadwyn Berwyn yng ngogledd Cymru. Roedd ei ganolfan faenorol a’i brif gartref yn Sycharth ym mhlwyf Llansilin.

Mae Sycharth yn enghraifft wych o fwnt a beili - castell gwrthglawdd ag amddiffynfa bren. Ni wyddom unrhyw beth am ei hanes nes yn hwyr yn y 14eg ganrif pan enillodd Sycharth enwogrwydd parhaol yn gartref i Dywysog Cymru, Owain Glyn Dŵr, arweinydd gwrthryfel mawr olaf y Cymry yn erbyn llywodraeth y Saeson. Er nad oes gweddillion uwchben y tŷ gwreiddiol, mae wedi ei gofrestru’n gofadail o bwysigrwydd cenedlaethol.

Roedd ei ail gartref wedi ei leoli ar fryn amffosog, wedi’i amgylchynu â pharcdir yng Ngharrog (tua thair milltir i’r dwyrain o Gorwen). Etifeddodd Owain hefyd ychydig o dir ffrwythlon o ystâd Rhys ap Tewdwr yn ne Cymru. Cipiodd byddin Glyn Dŵr gastell Harlech ym 1404 a’i feddiannu hyd 1408. Yn ystod y cyfnod hwn, castell Harlech oedd cartref llys a theulu Owain. Yn ôl traddodiad lleol, treuliodd Owain ei flynyddoedd diwethaf yng nghartref ei ferch Alys, yn Llys Kentchurch yn Golden Valley, Swydd Henffordd.

Mae Sycharth wedi ei leoli ger pentref Llansilin, sydd lai na milltir o’r ffin bresennol â Lloegr, rhyw saith milltir i’r gorllewin o Groesoswallt. Roedd yn gartref i Owain, ei wraig Margaret a’u plant - o leiaf chwech o feibion a phump o ferched.

 Bu cloddiadau ar y safle ym 1962/3 ac amlygwyd gweddillion dwy neuadd bren ar ben y domen. Roedd un o’r adeiladau yma’n helaeth ac oddeutu 13m (43 droedfedd) o hyd. Roedd gweddillion pren rhuddedig yn cadarnhau bod yr adeilad wedi ei losgi gan fyddin Tywysog Harri ym 1403 (yn ddiweddarach, Harri V). Ni oroesodd unrhyw un o’r adeiladau ymosodiadau’r rhyfelwyr a’r ysbeilwyr. Mae’r archeolegydd annibynnol, Spencer Smith, yn credu iddo ddarganfod rhannau o’r adeilad oedd wedi eu dinistrio ym 1403 ac mae’n awyddus i ymgymryd ag astudiaethau pellach ar y safle. Yng nghyfnod Owain roedd Sycharth yn gartref hynod o nodedig ac yn achos eiddigedd i’w gyfoeswyr. Y cofnod gorau sydd gennym o’r maenordy amffosog yw’r awdl gan Iolo Goch. Caiff ei ddisgrifio yn adeilad â tho teils a simnai wedi’i thynnu’n rhydd. Roedd digon o adnoddau i gynnal gosgordd fawr ac roedd perllan, colomendy cerrig, cwningar cwningod, pwll pysgod, crëyrfa, melin a pharc  ceirw.

I ymweld â Sycharth, ewch ar y B4580 o Groesoswallt i Lansilin (tua saith milltir). Ewch ymlaen ar hyd y B4580 trwy ganol y pentref a throwch i’r dde  ar y groesfan tua hanner milltir o’r pentref. Yna parhewch am oddeutu milltir a throwch i’r chwith ar y groesfan. Mae’r heol yma yn croesi pont ac mae Sycharth ar y chwith oddeutu dau gan llath y tu hwnt i’r bont . Edrychwch am faes parcio bychan sy’n rhoi mynediad o’r llwybr troed sy’n arwain i’r safle. Fe welwch fwrdd sy’n rhoi hanes cryno o’r safle. Mae mynediad trwy ganiatâd caredig Syr Watkin Williams Wyn.

Gellir gweld y mwnt a beili a’r pyllau yn eglur

Glyndyfrdwy (Carrog) – y mwnt

Cipiodd Owain gastell Harlech (chwith) yn gynnar yn haf 1404. Roedd  eisoes wedi cipio castell Aberystwyth. Roedd castell Harlech yn arbennig o gryf, felly penderfynodd Owain sefydlu ei lys yno. Erbyn 1404/5 roedd Owain wedi sefydlu rheolaeth effeithiol ar bron pob rhan o Gymru . Ar ôl 1406, gwanychodd ymgyrch Owain ac yng ngaeaf 1408/9, ar ôl wyth mis o warchae gan 300 o filwyr a 600 o saethwyr, cipiodd y Saeson y castell.


Cartrefi Owain Glyn Dŵr


Cymdeithas Owain Glyn Dŵr

Map Gwefan Saesneg Diweddariadau

Cartrefi

Sylwadau/Awgrymiadau