c 1335-59


Ganwyd Owain ap Gruffydd Fychan (Owain Glyn Dŵr).

c 1370


Erbyn y dyddiad yma mae ei dad, Gruffydd Fychan, wedi marw. Gan fod Owain, dan oedran, mae'n dod yn ward brenhinol, efallai wedi ei osod dan warchodaeth Iarll Arundel

c 1375


Owain yn astudio’r gyfraith yn Neuaddau'r Brawdlys Llundain.

c 1383


Priodi Margaret, merch Sir David Hanmer.

1384


Gwasanaeth milwrol dan Sir Gregory Sais yn Berwick on Tweed gyda’i frawd Tudur

1385

Awst

Cymryd rhan yn ymosodiad Brenin Richard II ar yr Alban.

1386


Rhoi tystiolaeth mewn prawf ynglŷn â hawliau herodrol Richard, Arglwydd Scrope a Syr Robert Grosvenor.

1387


Owain a Tudur yn gwasanaethu yn sgweieriaid i Iarll Arundel. Owain yn cymryd rhan ym mrwydr fôr Cadzand ger yr arfordir Fflandrys.

1394


Cymryd rhan yn ymgyrchy  Brenin Richard i Iwerddon

1397


Arundel wedi’i waradwyddo ac yna ei ddienyddio; efallai bod Owain wedi gadael ei wasanaeth eisoes ac wedi ymuno â Henry Bolingbroke, Dug Henffordd.

1399


Richard II yn cael ei ddiorseddu a’i lofruddio. Henry Bolingbroke yn dod yn Henry IV ac yn cyhoeddi mai ei fab, Harri o Drefynwy yw  “Tywysog Cymru”.

1400

Medi 16eg







Owain yn cwyno i’r Senedd fod yr Arglwydd Grey o Ruthun wedi cipio tir sy’n perthyn iddo. Y Senedd yn gwrthod ei gwyn mewn modd dirmygus.


dilynwyr Owain yn ei gyhoeddi’n Dywysog Cymru


Owain a’i gynghreiriaid yn ymosod a llosgi Rhuthun, yna’n symud i Ddinbych, Rhuddlan, y Fflint, Penarlâg a Holt yn ogystal â Chroesoswallt. Cael eu gorchfygu mewn brwydr i’r gogledd o’r Trallwng.


Mae Harri IV ar ei ffordd yn ôl o’r Alban ac yn anelu am Amwythig, yna drwy Ogledd Cymru i Sir Fôn, gan losgi ac ysbeilio. Mae’n atafaelu ystadau Owain a’i berthnasau.

1401

Ebrill 1af
(Dydd Gwener y Groglith)

Cipiodd Gwilym a Rhys ap Tudur gastell Conwy. Tywysog Harri a Hotspur (mab Iarll Northumberland) yn gyfrifol am sicrhau heddwch yng Nghymru.


Mai/Gorffennaf

Brwydr Hyddgen, ger Pumlumon; byddinoedd Owain yn fuddugol. Mae’n mynd ymlaen i Sir Faesyfed.


Hydref

Brenin Harri yn gorymdeithio am yr ail dro i Gymru, ac yn anrheithio a dienyddio cefnogwyr Owain. Cestyll Aberystwyth a Harlech nawr dan warchae gan gefnogwyr Owain ond yn methu cipio’r cestyll.   Owain yn dechrau trafodaethau diplomyddol â Brenin Robert o’r Alban, ac felly’n datgan ei hun yn frenin annibynnol.

1402

Ebrill

Owain yn dal Arglwydd Grey o Ruthun.


Mehefin

Brwydr Bryn Glas ger Pyllalai (Pilleth). Owain yn trechu Edmund Mortimer; y brenin yn gwrthod talu pridwerth Mortimer, sydd yn y cyfamser yn ymuno ag Owain.


Gorffennaf/Awst

Owain yn meddiannu Morgannwg a Gwent.


Medi

Brenin Harri yn arwain ymgyrch arall i Gymru, ond yn cael ei drechu gan y glaw!


Tachwedd

Edmund Mortimer yn priodi Catrin, merch Owain,.

1403

Mai

Harri, “Tywysog Cymru”, yn ymosod ar ac yn llosgi cartrefi Owain yn Sycharth a Glyndyfrdwy. Owain yn goresgyn de-orllewin Cymru drwy Frycheiniog; cipio cestyll Caerfyrddin a Chastellnewydd Emlyn.


Gorffennaf 21ain

Byddin Tywysog Harri yn trechu ac yn lladd Hotspur yn Amwythig. (Mae Hotspur yn frawd yng nghyfraith i Mortimer).


Medi

Pedwerydd ymgyrch y Brenin I Gymru. Ond yn aneffeithiol.


Tachwedd

Llynges Ffrengig yn ymuno ag Owain i ymosod ar Gastell Caernarfon.

1404

Mai

Cestyll Aberystwyth a Harlech wedi’u cipio gan Glyn Dŵr.


Gorffennaf

Owain yn rheoli'r rhan fwyaf o Gymru, gogledd a’r de. Y Saeson yn dal eu gafael ar gestyll mawr Edward I ar gyrion gogledd Cymru ond nid y tir y tu allan iddynt.


Gorffennaf 14eg

Cynghrair ffurfiol â Brenin Ffrainc.


Mehefin/Goffennaf

Owain yn cynnal senedd ym Machynlleth (ac yn ô l pob tebyg un yn Harlech y flwyddyn ganlynol). Cael ei goroni’n Dywysog Cymru.

1405

Chwefror

Cytundeb Tridarn rhwng Owain, Edmund Mortimer a’r Iarll Northumberland (tad Hotspur). Yn ôl y Cytundeb bydd Owain yn rheoli Cymru a siroedd y gororau tra mae Mortimer yn cael de Lloegr, Northumberland a’r Gogledd. Mae ffiniau Cymru yn ymestyn i darddiadau’r Merswy a’r Trent, ac o fewn ychydig o filltiroedd o Firmingham.


Mawrth11eg

Byddin Tywysog Harri yn trechu’r fyddin Gymreig sy’n ymosod ar gastell y Grysmwnt.


Mai 5ed

Brwydr Pwll Melyn (ger Brynbuga). Y Cymry wedi eu trechu; marwolaeth Tudur brawd Owain, ac mae Gruffudd, mab Owain, yn cael ei gipio a’i anfon i'r Twr (lle mae’n marw yn ddiweddarach).


Mehefin

Byddin Lloegr yn ail-gipio Castell Biwmares ac yn anrheithio Sir Fôn.


Awst

Llynges Ffrengig yn hwylio i Aberdaugleddau, yn ymuno â chefnogwyr Owain, ac yn ymosod ar nifer o garsiynau a threfi’r Saeson. Maent yn gorymdeithio tuag at Gaerwrangon ond yn cwrdd â byddin Harri IV yn Woodbury Hill ger Caerwrangon. Ni fu brwydr ac mae byddin Ffrainc/Cymru yn dychwelyd i Gymru.

1406

Gwanwyn

Mae aelodau olaf  byddin Ffrainc yn gadael erbyn y Grawys, er caiff byddin arall ei hanfon yn hwyrach yn y flwyddyn.


Mawrth 8ed

Mae llythyr gan Siarl VI o Ffrainc yn ysbrydoli llunio Llythyr Pennal (nawr wedi ei gadw yn archifau yn Ffrainc) sy’n amlinellu uchelgeisiau Owain ar gyfer Cymru - Eglwys Gymreig annibynnol, dwy brifysgol a.y.b.


Awst

Y Brenin yn ceisio codi gwarchae’r Cymry o Gastell Coety ond yn cael ei drechu gan y glaw.






Wedi hyn, mae digwyddiadau yn troi yn erbyn Owain; mae ei byddinoedd yn colli’n aml ac mae ei gynghreiriaid o gartref a thramor naill ai yn marw neu’n colli diddordeb, er bod llawer mwy o flynyddoedd cyn i’r gwrthryfel/rhyfel annibyniaeth ddod i ben




1407


Tywysog Harri yn methu ail-gipio Aberystwyth.

1408

Medi

Tywysog Henry yn methu ail-gipio Castell Aberystwyth ac yn symud ymlaen i Harlech; mae’n ei gipio ynghyd â’r mwyafrif o deulu Owain. Edmund Mortimer yn marw yn ystod y gwarchae a chaiff y gweddill eu hanfon i’r Tŵr.

1409


Cefnogwyr Owain yn ymosod ar Amwythig ond caiff yr arweinwyr eu cipio.

O hyn ymlaen mae Owain a’i gefnogwyr yn ymladd herwryfel. Mae gweddill y gwrthdaro’n para hyd 1413. Erbyn hynny mae Owain yn cuddio. Mae Tywysog Harri wedi olynu ei dad ac mae'n Frenin Harri’r V; mae’n barod i drafod telerau ac mae’n cynnig pardwn, ond nid yw Owain yn ymateb.

1415


Awgryma’r ychydig o dystiolaeth hanesyddol sy’n bodoli fod  Owain Glyn Dŵr wedi marw ym 1415, ond ni wyddom y man cywir ne’r dyddiad. Goroeswyd ef gan ei fab Maredudd a nifer o’i ferched.  Wedi eu caethiwo yn Llundain bu farw ei ferch Catrin a’i phlant ac fe’u claddwyd yn Eglwys Sant. Swithin, Blackfriars ger Dinas Llundain. Er nad yw’r Eglwys yn bodoli bellach mae cofadail wedi ei adeiladu er cof am Catrin ar y safle.

    Blwyddyn               Cyfnod                Digwyddiad

Mae’r llinell amser yma yn seiliedig ar linell amser Sally Roberts Jones ac mae’r Gymdeithas eisiau estyn diolch iddi


Ewch I'r Top


Cymdeithas Owain Glyn Dŵr

Map Gwefan Saesneg Diweddariadau

Llinell Amser

Sylwadau/Awgrymiadau