Ewch I'r Top

Mae gan Owain delwedd gyhoeddus fel tywysog chwyldroadol a rhyfelwr. Mae’r cyhoedd yn llai ymwybodol o’i sgiliau arswydus yn wleidydd ac yn ddiplomydd.


Roedd  Ffrainc a Lloegr yn elynion a gwrthwynebwyr am ganrifoedd ac yn 1337 dechreuodd y Rhyfel Can Mlynedd. Yn ei wrthryfel yn erbyn gormes y goron Seisnig, ymgeisiodd Owain i gael cefnogaeth y Ffrancwyr a oedd wedi sefydlu cysylltiadau â’r Alban ac Iwerddon.  


Treuliodd Owain Lawgoch (Owain of the Red Hand) – gor-nai Llywelyn Ein Llyw Olaf y mwyafrif o’i fywyd wedi’i alltudio yn Ffrainc fel swyddog yn y fyddin Ffrengig. Roedd yn fygythiad difrifol i’r orsedd Seisnig oherwydd ei hawl i’r llinach frenhinol, yn enwedig pan roddodd Brenin Ffrainc llynges a byddin iddo i oresgyn Cymru yn 1372. Terfynwyd yr ymgyrch. Cafodd ei lofruddio yn 1378 gan ysbïwr Seisnig. Ond efallai byddai’i wasanaeth Ffrengig wedi bod yn ddylanwadol yn hwyrach pan oedd Glyndŵr yn bwriadu galw am gymorth gan y Ffrancwyr.


Roedd Harri IV wedi’i ymglymu’n drwm mewn ymgyrchoedd drud yn Yr Alban ac yn Iwerddon, ac archwiliwyd ei hawl i’r orsedd Seisnig. Yn 1401 anfonwyd y marchog Cymreig Dafydd ab Ifan Goch, yn gennad i frenin Yr Alban ar ran Glyndŵr. Yn 1403-4 gweithiodd sgwadron Ffrengig  Jean d’Espagne gyda’r Cymry ac anfonodd Owain ei frawd yng nghyfraith John Hanmer, a’i ganghellor Gruffudd Young i Ffrainc. Sefydlwyd cytundeb ar Orffennaf 14eg 1404.


Gadawodd y fyddin Ffrengig Brest ar Orffennaf 22ain 1405 gyda 140 o longau yn cario 800 o filwyr arfog, 600 o filwyr bwa croes a 1,200 filwyr gydag offer ysgafn. Fe wnaethant gyrraedd Aberdaugleddau yn gynnar ym mis Awst. Ymunon nhw â dynion Owain ar orymdaith drwy dde Cymru, i mewn i Loegr. Cyrhaeddant Woodbury Hill o fewn 8 milltir o Gaerwrangon. Er ym mis Tachwedd dychwelodd nifer helaeth o’r marchogion Ffrengig i Ffrainc ac yn gynnar ym 1406 dychwelodd y gweddill. Wedi hynny dim ond ymgeision wan a wnaed i ddarparu olynwyr ar ôl hyn ac nid oedd yna unrhyw ymgyrchoedd milwrol cyfunol.  

Er mawr syndod i’r Eglwys Gymreig ym Mhennal ar Fawrth 31ain 1406, anfonodd Owain Glyndŵr lythyr yn Lladin  at frenin Ffrainc Siarl VI. Cliciwch yma i weld testun llawn y llythyr. Mae’n arwyddocaol oherwydd mae’n amlygu uchelgeisiau Owain ar gyfer Cymru fel gwlad annibynnol. Ysgrifennodd at y brenin oherwydd roedd o am ei gefnogaeth i waredu Cymru o lywodraeth ormesol Lloegr (roedd yna reolau gwahaniaethol llym roedd yn ffafrio’r Saeson dros y Cymry yng Nghymru). Yn gyfnewid am gefnogaeth y Ffrancwyr roedd Owain yn barod i gydnabod Benedict XIII o Avignon fel y Pab (yn lle’r Pab yn Rhufain -Pab Innocent VII -roedd y Saeson yn cydnabod), Roedd yn nisgwyliedig byddai Benedict yn cefnogi mwy o benodiadau eglwysig yng Nghymru.


Cyn adeg Owain roedd yr esgobion gan amlaf o Loegr. Rhwng 1372 a 1400 penodwyd cyfanswm o un ar bymtheg o esgobion, a dim ond un roedd yn Gymro.  Ymgyrchodd Owain am glerigwyr Cymreig (yn ogystal â rhai oedd yn gallu siarad Cymraeg).                                                                                                                      

Galwodd am grwsâd yn erbyn Harri IV a maddeuant ar gyfer ei gefnogwyr i gyd. Tŷ Ddewi fyddai sedd Archesgob Cymru, a byddai’i arglwyddiaethau yn cynnwys yr esgobaethau o Gaerwysg, Caerfaddon, Henffordd, Caerwrangon, Coventry a Litchfield, a drwy hyn dychwelyd y trefniant oedd wedi’i weithredu yn gynharach yn hanes Prydain. Byddai’r incwm o’r mynachlogydd yn cael ei gadw yng Nghymru. Roedd ei gweledigaeth hefyd yn cynnwys sefydlu dwy brifysgol- un ar gyfer gogledd Cymru ac un i dde Cymru (ar y pryd roedd ond 22 prifysgol yn Ewrop gyfan).


Caiff y llythyr gwreiddiol ei gadw yn yr Archives Nationales ym Mharis ond cyflwynwyd copïau cywir i’r canlynol: Eglwys San Pedr ad Vincula, Pennal; Canolfan Owain Glyndŵr, Machynlleth; Amgueddfa Cymru; Prifysgol Glyndŵr;  Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Er mwyn eu gwerthfawrogi mae angen gweld y copïau cywir manwl ar femrwn sydd wedi’u paratoi gan staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Defnyddiodd y staff technegau heneiddio arbennig ac ail-grewyd sêl Glyndŵr o fowldiau’r sêl wreiddiol.

Glyn Dŵr - y Gwleidydd


Cymdeithas Owain Glyn Dŵr

Map Gwefan Saesneg Diweddariadau

Gwleidydd

Sylwadau/Awgrymiadau