Etifeddodd Rhodri deyrnas Gwynedd gan ei dad ond mae'n enwog am fod y person cyntaf i uno tair o deyrnasoedd mwyaf Cymru, a'u hamddiffyn rhag cyrchoedd y Llychlynwyr a'r Sacsonaidd hyd ei farwolaeth yn 878.


Roedd Rhodri yn fab i Merfyn ap Gwriad, neu Merfyn Frych (m. 844), a Nest, merch Cadell ap Brochfael o Bowys. Dilynodd ei dad yn frenin Gwynedd yn 844.


Digwyddodd yr ymosodiad Llychlynnaidd cyntaf ar Gymru i'w gofnodi tua 850, ond mae'n debyg y bu llawer o ymosodiadau cynharach. Wynebodd Rhodri hefyd ymosodiad Sacsonaidd yn 853 dan arweiniad Burgred o Fersia ac Aethelwulf o Wessex.


Yn dilyn marwolaeth ei ewythr, Cyngen ap Cadell, yn 855, ychwanegodd Rhodri Bowys at ei diroedd ac amddiffynnodd Ynys Môn rhag cyrch Llychlynnaidd yn fuan wedi hynny. Flwyddyn yn ddiweddarach dychwelodd y 'Northmyn' a threchwyd eu harweinydd, Gorm, mewn brwydr gan Rhodri. Erbyn 865, fodd bynnag, roedd y Sacsoniaid wedi llwyddo i'w yrru o Ynys Môn ond llwyddodd i ddychwelyd yn fuan wedyn i'w hadennill.

Priododd Rhodri ag Angharad merch Meurig ap Dyfnwallon, brenin Seisyllwg - ardal a oedd yn cynnwys rhanbarthau Ceredigion ac Ystrad Tywi. Pan fu farw brawd Angharad, Gwgon ap Meurig, trwy foddi yn 872, cymerodd Rhodri reolaeth ar ei diroedd a hwn oedd y tro cyntaf yr unwyd tair o brif deyrnasoedd Cymru.


Parhaodd Rhodri i amddiffyn Cymru yn erbyn ymosodiadau Llychlynnaidd a Sacsonaidd am weddill ei deyrnasiad. Llwyddodd y Llychlynwyr i'w yrru'n alltud i dde Iwerddon yn 877, ond dychwelodd ymhen blwyddyn i adennill ei diroedd. Lladdwyd Rhodri ym 878, yn ôl pob tebyg gan lu o Fersia dan arweiniad Ceolwulf.


Aeth dau o'i feibion, Anarawd a Cadell, ymlaen i sefydlu tai Aberffraw (Gwynedd) a Dinefwr (Y Deheubarth), yn eu tro, ond mae Rhodri'n fwyaf enwog am fod yr un a lwyddodd i uno tair teyrnas Gymreig ac wedyn eu hamddiffyn rhag goresgynwyr tramor. Yn hynny o beth, roedd ei deyrnasiad yn drobwynt yn hanes Cymru.


Cyfeiriadau

Twenty-one Welsh Princes gan Roger Turvey

Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Y Bywgraffiadur Cymreig -   Rhodri Mawr  


Bywgraffiadau Cysylltiedig:

Merfyn Frych - tad       Gwgon ap Meurig - brawd yng nghyfraith

Anarawd ap Rhodri - mab     Cadell ap Rhodri - mab (gweler Hywel Dda)

Cyngen ap Cadell - ewythr     Hywel ap Rhodri Molwynog - hen ewythr

Cynan Dindaethwy - hen daid

Seisyll ap Clydog - un o hynafiaid gwraig Rhodri, Angharad

Rhodri Mawr

Print
Saesneg
Dangos y Ddewislen Uchaf