Hywel Dda

Galwodd Hywel Dda am gynulliad arbennig o gyfreithwyr o  bob rhan o'i deyrnas yn Hendy-gwyn ar Dâf i lunio côd cyfreithiol unedig i Gymru.
Sylfaenwyd y cyfreithiau hyn ar dosturu  yn hytrach na chosb trwy ddefnyddio synwyr cyffredin.
Roedd y rhain yn dra gwahanol i gyfreithiau gwledydd eraill, yn enwedig am hawliau merched.


Roedd y deddfau yn ddibynol ar statws y diffynnydd, ac yn rhannu Cymry  i bum dosbarth:
  * llywodraethwyr - yn cynnwys y
        brenin dros ei deyrnas, a'r
        arglwyddi dros eu tiroedd;
  * y Cymry rhydd - yn cynnwys y
        boneddwyr a'r iwmyn;
  * Cymry taeog;
  * tramorwyr yn byw yma;
  * caethweision.

  Statws

Merched

Roedd mwy o degwch i ferched dan gyfreithiau Hywel Dda nag oedd yn bodoli mewn gwledydd eraill. Er enghraifft, pan fyddai pâr yn gwahanu wedi bod yn briod am llai na saith mlynedd, byddai'r wraig yn derbyn rhan o eiddo'r pâr fyddai'n cyfateb i'w statws enedigol. Pan fyddai'r pâr wedi bod yn briod am fwy na saith mlynedd yna byddai'r wraig yn derbyn hanner eiddo'r pâr.

Trosedd

Roedd llofruddiaeth yn drosedd yn erbyn y teulu yn hytrach nag yn erbyn cymdeithas neu'r wladwriaeth. Fel arfer, byddai tâl yn ddyledus i deulu'r ymadawedig, gyda'r swm yn ddibynnol ar statws yr ymadawedig

Deliwyd â thrais mewn modd tebyg, ond mewn achosion yn ymwneud â dosbarthiadau uchaf cymdeithas yn unig  - pe bai taeog yn taro gwr rhydd byddai'n debygol o golli'i fraich fel cosb.

Roedd pwyslais arbennig ar iawndal yn dilyn trosedd, ac roedd achosion lle collwyd aelod o'r corff yn cael sylw manwl.

Rhoddwyd gwerth o 3780 ceiniog, neu 63 o fuchod ar gorff dyn rhydd. Roedd llaw, llygad, troed, gwefus a thrwyn gwerth 480 ceiniog, ond roedd gwerth aelodau eraill o'r corff yn ddibynnol ar amrywiaeth o ffactorau.

Lawndal

Cyfreithiau Hywel Dda

Print
Saesneg
Dangos y Ddewislen Uchaf