Roedd Rhys ap Gruffudd (sy'n fwy adnabyddus fel Yr Arglwydd Rhys) yn ŵyr i Rhys ap Tewdwr, brenin Cymreig olaf y Deheubarth (de-orllewin Cymru). Ar ôl lladd Rhys ap Tewdwr mewn brwydr ger Aberhonddu yn 1093 llifodd ei elynion Normanaidd i mewn i orllewin Cymru, gan sefydlu eu

harglwyddiaethau eu

hunain yno: dim ond plentyn oedd ei etifedd, Gruffudd ap Rhys, ar y pryd. Ond pan ddaeth yn ddyn dechreuodd ymgyrchu i adennill y Deheubarth, gan ymgynghreirio yn aml â'i dad-yng-nghyfraith, Gruffudd ap Cynan, rheolwr Gwynedd.


 Rhys ap Gruffudd oedd pedwerydd mab cyfreithlon Gruffudd. Lladdwyd dau o'i frodyr hŷn a'i fam, Gwenllian, mewn brwydr yn erbyn y Normaniaid yn 1136; bu farw ei dad yn 1137 pan oedd Rhys tua phedair oed.


Gwelir enw Rhys yn y cofnodion am y tro cyntaf, ynghyd â’i frodyr Cadell a Maredudd, yn 1146, pan gipiwyd Castell Llansteffan ganddynt. Erbyn 1155 roedd Cadell a Maredudd wedi mynd, a Rhys oedd yn arwain yr ymgyrch i adennill y Deheubarth gyda pheth llwyddiant. Hyd at 1154 bu’r annhrefn yn Lloegr wrth i Matilda a Stephen ymladd dros olyniaeth y goron o gymorth i'r Cymry, ac yn gynharach, yn 1136 roedd undeb Gruffydd ap Rhys a lluoedd Gwynedd wedi trechu'r Normaniaid ym mrwydr Crug Mawr, gan adennill Ceredigion - a hawliwyd i ddechrau gan Wynedd, ond a adferwyd wedyn gan Maredudd a Rhys.


 Unwaith yr oedd Harri II wedi ei sefydlu ei hun ar yr orsedd yn 1154, trodd at Gymru, a thros yr ychydig flynyddoedd nesaf bu cyfres o ymosodiadau a thrafodaethau; ar un adeg gadawyd Rhys gyda dim ond Cantref Mawr, yr ardal rhwng afon Tywi ac afon Teifi, ond yn 1164 llwyddodd i adennill y rhan fwyaf o Geredigion. Wedyn yn 1167 ymosododd arglwyddi Normanaidd Gorllewin Cymru ar Iwerddon, gan roi lle i Rhys gadarnhau ei safle yn fwy byth. Pryderai Harri II y gallai Iwerddon ddod yn deyrnas Normanaidd annibynnol ac felly’n berygl i’w deyrnas ei hun. O’r herwydd daeth i delerau â Rhys, a benodwyd, ymhlith consesiynau eraill, yn Brifustus De Cymru.


 Yn y blynyddoedd dilynol, adeiladodd Rhys gestyll cerrig - y cyntaf yn ôl pob tebyg gan dywysog o Gymru - yn Aberteifi a Charreg Cennen; cynhaliodd yr Eisteddfod gyntaf i'w chofnodi yn Aberteifi yn 1176. Sefydlodd Abaty Talyllychau a lleiandy Llanllyr, ac roedd yn noddwr ar nifer o abatai eraill. Efallai hefyd mai Rhys oedd yn gyfrifol am gasglu cyfreithiau Cymreig Hywel Dda at ei gilydd ar ffurf llyfr.


 Bu farw Harri II yn 1189 ac adnewyddodd Rhys ei ymosodiadau ar yr arglwyddiaethau Normanaidd. Cafodd broblemau gyda'i feibion, fodd bynnag, a phan fu farw yn 1197 dyma nhw'n ymladd dros ei etifeddiaeth a chwalodd y Deheubarth. Eto i gyd, os na oroesodd ei deyrnas fel y cyfryw, heb ei ymgyrchoedd mae'n bosibl y byddai de Cymru wedi dod yn Gernyw arall, nid yn hollol Seisnig, ond yn fawr ddim arall mewn gwirionedd.


 Gallai fod wedi hawlio'r teitl 'brenin' fel ei dad-cu, ond ar yr adeg hon dechreuodd llywodraethwyr Cymru eu galw eu hunain yn 'dywysogion' - er bod y teitl yn golygu llawer mwy yn y cyfnod hwnnw nag y mae heddiw. Daeth Rhys yn adnabyddus fel 'yr Arglwydd Rhys', wrth i Caradoc ap Iestyn, mab brenin olaf Morgannwg, a chefnder i Rhys, ddod yn Arglwydd cyntaf Afan.


Cyfeiriadau

John Davies - Hanes Cymru

Gerallt Gymro - Taith Trwy Gymru

R.R. Davies – Conquest, co-existence and change: Wales 1063-1415

Kari Maund - The Welsh kings: warriors, warlords and princes.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Y Bywgraffiadur Cymreig -   Yr Arglwydd Rhys  


Bywgraffiadau Cysylltiedig:

Gruffudd ap Rhys - tad       Gwenllian - mam

Rhys ap Tewdwr - taid       Gruffudd ap Cynan - taid

Anarawd ap Gruffudd - brawd      Cadell ap Gruffudd - brawd

Maredudd ap Gruffudd - brawd     Owain Gwynedd - ewythr

Cadwaladr ap Gruffudd - ewythr     Gruffudd ap Rhys - mab

Maelgwn ap Rhys - mab        Rhys Gryg - mab

Ifor Bach - brawd yng nghyfraith     Morgan ap Caradog - cefnder

Owain Cyfeiliog – mab yng nghyfraith  Rhodri ab Owain - mab yng nghyfraith

Yr Arglwydd Rhys

Print
Saesneg
Dangos y Ddewislen Uchaf