Hysbysfwrdd Onennau Meigion

       Yn 1405 arweiniodd Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru, fyddin o Ffrancwyr a Chymry ar daith i Loegr yng nghyfeiriad Onennau Meigion (Six Ashes) ar y ffordd o Kinver i Bridgnorth. Roedd hwn yn le pwysig i'r Cymry gan mai yma oedd yr hen ffin rhwng Cymru a Lloegr ddisgrifiwyd gan Myrddin yn chwedlau Arthur.

       Ddechrau Awst 1405 glaniodd byddin sylweddol o Ffrancwyr yn Aberdaugleddau yng ngorllewin Cymru. Fe'i hanfonwyd gan Siarl VI, Brenin Ffrainc, i gefnogi Owain Glyndŵr  yn ei ymgyrch yn erbyn Harri IV o Loegr. Roedd Harri wedi cam-feddiannu coron Lloegr ychydig flynyddoedd ynghynt ac wedi datgan mai ef oedd y brenin gan gyffroi llawer, yn cynnwys Glyndŵr.

       Teithiodd y fyddin ar draws de Cymru ac wedi cyrraedd Lloegr ymosodwyd ar faestrefi Caerwrangon. Yna llwybrodd y fyddin i gyfeiriad Onennau Meigion ond daethant ar draws byddin Harri IV ger Great Witley. Wynebodd y ddwy fyddin ei gilydd - y Cymry ar Woodbury Hill a byddin Lloegr ar yr ochr arall i ddyffryn Teme ar Abberley Hill. Parhaodd y ddwy fyddin i fygwth ei gilydd am wythnos cyn i fyddin Glyndŵr  fynd yn brin o fwyd ac adnoddau eraill ac aeth y ddwy fyddin ar eu ffordd heb ymgiprys.

       Roedd Glyndŵr wedi gobeithio cyrraedd yr hen ffin yn Six Ashes, yn ddwfn yng ngwlad y Mers i hawlio'r tiroedd i Gymru. Wedi gorchfygu Harri'r bwriad oedd rhannu Cymru a Lloegr i dair rhan: Owain i reoli'r rhan orllewinol, a'r gweddill i'w rannu rhwng ei gynghreiriau Henry Percy (Iarll Northumberland) ac Edmund Mortimer. Roedd y tri ohonynt wedi cytuno i'r trefniant yn y ddogfen a elwid Y Cytundeb Tridarn, gyda'r rhan ogleddol o Loegr dan reolaeth Percy, a'r rhan ddeheuol dan reolaeth Edmund mortimer (oedd yn fab-yng-nghyfraith i Owain).

Y Cytundeb Tridarn

       Cipiwyd Edmund Mortimer gan filwyr Glyndŵr mewn brwydr ger Trefyclo yn 1402 ond, pan fethodd Harri IV gynnig pridwerth i'w ryddhau, trodd Mortimer i gefnogi Glyndŵr. Roedd Harri eisoes wedi dechrau dwyn tiroedd Mortimer gan fod gan deulu Mortimer well hawl i goron Lloegr. Yn 1403 ym Mrwydr Amwythig lladdwyd brawd-yng-nghyfraith Edmund, 'Harry Hotspur', a bu'r digwyddiad yn gyfrwng i gryfhau'r berthynas rhwng Glyndŵr  a thad Hotspur, Iarll Northumberland.

       Yn ôl proffwydoliaeth Myrddin nodwyd Onennau Meigion fel y man lle casglodd Yr Eryr Mawr fintai o filwyr o Gymru. Efallai mai hwn oedd lleoliad y frwydr lle bu Cadwallon ap Cadfan yn fuddugol dros y Sacsoniaid yn y seithfed Ganrif, lle sefydlwyd partneriaeth rhyngddo â Penda o'r Mers. Byddai Owain Glyndŵr wedi bod yn ymwybodol o'r broffwydoliaeth ac wedi penderfynu gwneud y lle yn fan i ymgyrchu yn erbyn Harri IV. 

       Mae tafarn Six Ashes nawr ar safle Onennau Meigion. Lloriwyd yr onennau gwreiddiol flynyddoedd maith yn ôl  ond mae rhes o chwe onnen  yn dal i aros y tu allan i'r dafarn. Toriadau yw'r rhain o'r onnenau gwreiddiol. Cysylltodd Martin Wall, awdur lleol, gyda Chymdeithas Owain Glyndŵr  i awgrymu y dylid coffau'r safle hanesyddol hwn.

Hysbysfwrdd Onennau Meigion

       Ffrwyth yr awgrym hwn yw'r hysbysfwrdd, a'r gobaith yw y bydd hyn yn cynyddu diddordeb yn y rhan anadnabyddus hon o'n hanes. Mae nifer o lwybrau yn yr ardal ac mae'r rhain yn gyfrwng i ddod i adnabod yr ardal yn well, ac mae'r dafarn yn paratoi nifer o ystafelloedd i dderbyn ymwelwyr i ymchwilio'r safle hanesyddol hon.