GWIBDAITH CORWEN – 21 Medi, 2019

 

GWIBDAITH CORWEN

       Wedi trawsfeddianu coron Lloegr yn 1399 cyhoeddodd Henry Bolinbroke (Harri IV) ei fab cyntaf yn "Dywysog Cymru".

       Ymatebodd Owain Glyndŵr trwy gyhoeddi i'w gefnogwyr mae ef oedd gwir Dywysog Cymru ger ei gaban hela yng Nglyndyfrdwy ar Fedi 16, 1400.

Mwnt Glyndŵr

       Dyma ddechrau'r Gwrthryfel ac, yn yr wythnos ganlynol ymosododd ef a'i gefnogwyr ar drefi a chestyll dan reolaeth y Saeson yng ngogledd ddwyrain Cymru.

*        *        *        *        *        *        *

       Ymwelodd y daith hon â nifer o'r lleoedd hyn, a thrwy hynny cawn amgyffred o arwyddocâd dyddiau cyntaf y Gwrthryfel.

RHUTHUN

       Roedd Rhuthun a Dyffryn Clwyd yn rhan sylweddol o diroedd eu harglwydd, Reginald de Grey. Mae llawer yn tybio fod ffrae ynghylch  perchnogaeth tir yn gyfrifol am ddechrau'r Gwrthryfel.

   

Castell Rhuthun

       Ar Fedi 18 bu ymosodiad annisgwyl ar Ruthun gan tua 250 o wyr Owain. Ysbeiliwyd a llosgwyd y dre, ond ni chipiwyd y castell.

       Dychwelodd Owain a'i wyr yn 1402 a chipio de Grey ar lecyn adnabyddwyd fel Bryn Saith Marchog. Talwyd pridwerth sylweddol gan Harri IV i'w ryddhau, ond cafodd teulu de Grey sialens enfawr i dalu'r ddyled.

DINBYCH a LLANELWY

       Wedi ymosod ar Ruthun aeth Glyndŵr a'i wŷr i'r gogledd i ymosod ar DdinbychUnwaith eto, llosgwyd y dre ond ni chipiwyd y castell.

       Henry ‘Hotspur’ Percy oedd Ceidwad y castell ar y pryd - roedd yr arglwyddiaeth yng ngofal teulu Mortimer, ond roedd Iarll y Mers ond 8 mlwydd oed yn 1400.

Castell Dinbych

       Roedd Hywel Cyffin, Deon Llanelwy yn bresennol yng Nglyndyfrdwy ar Fedi 16. Roedd yn un o lawer o offeiriaid ac ysgolheigion fu'n cefnogi ymgyrch Owain.

       Ychydig flynyddoedd wedi hynny ymunodd John Trefor, Esgob Llanelwy, a'r ymgyrch. Mae'n debyg fod yr Eglwys Gadeiriol wedi'i hanrheithio gan wŷr Owain yn y Gwrthryfel.


Llanelwy

RHUDDLAN a FFLINT

       Teithiodd milwyr Glyndŵr ymhellach i'r gogledd i ymosod ar Ruddlan ar Fedi 19. Er iddynt ddifrodi'r dre llwyddodd y castell i wrthsefyll yr ymgyrch.


Castell Rhuddlan

       Parhaodd yr ymgyrch i'r Fflint ar y dydd canlynol gyda'r un canlyniad.


Castell Y Fflint

       Y tu allan i'r dre ymosodwyd arnynt gan filwyr Seisnig o Gaer.

       Er hynny, chafodd hyn fawr o effaith ar yr ymgyrch, a barhaodd i'r de.

 

 

BRWYDR EFYRNWY

       Dros y deuddydd nesa' ymosodwyd ar Benarlâg, Holt a Whittington.


Castell Holt

       Ar Fedi 22, cafodd Croesoswallt a Felton yr un    driniaeth, ac aethant ymlaen i ymosod ar Y Trallwng y diwrnod nesa'.

       Mae'n debyg fod Brwydr Efyrnwy wedi cymryd lle ar Fedi 24 wedi i filwyr Owain deithio i'r gogledd o'r Trallwng.


Llandrinio

       Ymosodwyd arnynt ar y ffordd gan filwyr Seisnig o Amwythig a gwasgarwyd byddin Owain.

       Daeth wythnos gyntaf, derfysglyd y Gwrthryfel i ben.

 

HELYGAIN a’r HÔB

       Hywel Gwynedd o Sir y Fflint oedd un o is-gapteiniaid Owain yn yr ardal.

       Arweiniodd ymosodiadau yn yr ardal tan iddo gael ei ladd ar fynydd Helygain ym Mawrth, 1406.

*          *          *          *          *

       Rhyddhawyd tref Yr Hôb gan gefnogwyr Owain yn Chwefror 1403.

       Cynhelir gorymdaith flynyddol i goffau'r digwyddiad.

       Mae'n mynd o'r Hôb i Gaergwrle, ac yna i fyny i'r castell.

 

GLYNDYFRDWY a CARROG

       Prif gartref Glyndŵr a'i deulu oedd maenordy yn Sycharth, ychydig filltiroedd i'r gorllewin o Groesoswallt.

       Er hynny, treuliodd Owain gryn dipyn o'i lencyndod yng nghwt hela'r teulu ger afon Dyfrdwy yng Nglyndyfrdwy, ac yma y dechreuodd y gwrthryfel.

   

Safle cwt hela Glyndŵr

       Yng Ngharrog, tua milltir i'r dwyrain o'r cwt roedd adeilad adnabuwyd fel Carchardy Glyndŵr. Dyma oedd y ddalfa i garcharorion Glyndŵr.

  Carchardy Glyndŵr 

CORWEN

       Mae cysylltiad agos rhwng Corwen ac Owain Glyndŵr a bydd y dref yn dathlu'r cysylltiad - yn enwedig ar Ddydd Glyndŵr, Medi 16.

       Uwchben y dre mae Cae Drewyn, caer Oes yr Haearn lle cyfarfu Owain Gwynedd gyda nifer o dywysogion Cymreig i wrthsefyll ymosodiad Harri Ail o Loegr yn 1165.

Caer Drewyn   

Mae'n debygol mae yma bu milwyr Glyndŵr yn ymgynnull cyn teithio i'r gogledd i ymosod ar Ruthun.

       Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyhoeddus gyntaf yng Ngwesty Owain Glyndŵr yng Nghorwen ym 1789.

   

Gwesty Owain Glyndŵr