DYDDIAU OLAF OWAIN GLYNDŴR

 

Arolwg gan Gymdeithas Owain Glyndŵr

 

'Nid yw ei fedd ger eglwys, na dan gysgod ywen hynafol. Mae mewn man mwy diogel a mwy cysegredig fyth. Nid yw'r glaw yn syrthio arni, na chenllysg nag eirlaw yn oeri'r borfa uwch ei ben. Mae'n fythwyrdd mewn glesni gwanwyn tragwyddol. Disglair yw'r haul arni; agos a chynnes ac annwyl mae'n gorwedd, yn ddiogel o bob storom, o bob ebargofiant oer a llwyd. Ni chaiff amser gyffwrdd â hi; ni chaiff llygredd ei amharchu; gan fod y bedd hwn yng nghalon pob gwir Gymro. Yno, am byth, o genhedlaeth i genhedlaeth, mae calon Owain mewn breuddwyd, breuddwydio ymlaen, yn ddiogel am byth.' 

 

Owen Rhoscomyl 1905

 

       Ychydig a wyddom am flynyddoedd olaf Glyndŵr; mae'r amgylchiadau ynghylch ei farwolaeth yn fwy o ddirgelwch fyth.

 

       Erbyn 1412 roedd wedi gorfod ildio y rhan fwyaf o'r tir a enillodd yn y blynyddoedd cynt. Er bod rhai ardaloedd yn dal i gefnogi, nid oedd y rheini yn ddigon sylweddol na chytûn i wrthsefyll grym y gelyn. Eithriad nodedig i'r patrwm hwn oedd Meirionydd, lle cafodd coron Lloegr gryn anhawster i reoli'r bobl; parhaodd y sefyllfa tan farwolaeth Glyndŵr. Y digwyddiad nodedig olaf cyn ei farwolaeth oedd i'w filwyr gipio Dafydd Gam (bu Dafydd yn elyn i Glyndŵr a gwnaeth ymgais i'w lofruddio). Rhyddhawyd Dafydd wedi i Glyndŵr dderbyn pridwerth sylweddol. Daeth Harri V yn frenin Lloegr yn 1413 a chynigiwyd pardwn i Owain, ond fe'i gwrthododd. Derbyniodd ,Maredudd,  ei unig fab i oroesi'r gwrthryfel bardwn y brenin wedi marwolaeth Glyndŵr.

 

       Fel gyda llawer o'i hanes diweddar, mae cryn ansicrwydd ynghylch dyddiad marwolaeth Owain. Barn yr Athro Glanmor Williams oedd ei fod wedi marw rywbryd rhwng 1415 a 1417 ac mae'r dystiolaeth arall o'r un farn. Mae rhai ffynonellau yn awgrymu 1416 ond y mwyafrif yn cynnig 1415.

 

       Mae cronicl ysgrifennwyd ond ychydig o flynyddoedd wedi'i farwolaeth (Peniarth MS135) yn dweud:

 

'Yn 1415 diflannodd Owain ar Ddydd Sant Mathew yng nghyfnod y cynhaeaf ac wedi hynny ni wyddom i ble yr aeth. Mae nifer fawr yn dweud y bu farw; mae'r brudwyr yn dweud na fu.'

 

Mae Adda o Frynbuga, cyfoeswr i Glyndŵr, hefyd yn cofnodi yn ei Gronicl o 1415:

 

'Ar ôl cuddio am bedair blynedd wrth y brenin a'r deyrnas, bu Owain Glyndŵr farw, a'i gladdu gan ei gefnogwyr yn nhywyllwch nos. Serch hynny, darganfuodd ei elynion yn lle fe'i claddwyd  a bu'n rhaid iddo gael ei gladdu eilwaith; mae'n amhosib i ni ddarganfod yn lle.'

 

       Er bod Adda yn gyfoeswr, mae rhai o'i gofnodion yn amheus ym marn haneswyr o safon. Mae'n rhyfedd, er enghraifft, na ddifwynwyd ei fedd gan ei elynion,  arferiad cyffredin yn y cyfnod.

 

       Daeth Thomas Pennant (1726 - 98) i'r casgliad fod Owain wedi marw ar Fedi 20, 1415, ond mae ffynonellau eraiil yn cynnig Medi 21 (Gŵyl Sant Mathew). Mae cronicl Cymreig o'r flwyddyn 1415, gyhoeddwyd o fewn cenhedlaeth i'w farwolaeth, yn awgrymu dyddiad hwyrach:

 

'Diflannodd Owain ar ŵyl Sant Mathew yn yr hydref. Ni ŵyr neb wedyn ym mha le y bu'n cuddio. Mae llawer yn dweud y bu farw, ond mae'r proffwydi yn dweud na fu farw..'

 

Mae ystod eang o ffynonellau yn cynnig mai ar Fedi 21, 1415 y bu farw.

 

       Ni wyddom fawr am flynyddoedd olaf Glyndŵr. Mae rhai adroddiadau yn ei bortreadu fel cardotyn truenus yn ceisio am loches lle bynnag yr oedd i'w gael, hyd yn oed ar brydiau mewn ogofau. Mae sawl awgrym am leoliad ei fedd wedi cael sylw, yn cynnwys un sy'n awgrymu Bryn Lawton's Hope rhwng Leominster a Henffordd yn ôl llawysgrif yn dyddio o 1513. Cafodd Iolo Morgannwg weledigaeth o Owain fel gwaredwr y genedl, yn cysgu gyda'i filwyr mewn ogof ac yn barod i achub Cymru mewn argyfwng.

 

       Mae mwyafrif yr adroddiadau, serch hynny, yn dewis Y Golden Valley yn swydd Henffordd fel y safle lle' 'roedd Owain yn fwyaf tebygol o fod wedi treulio ei flynyddoedd olaf. Priododd dwy o'i ferched ŵyr o'r dyffryn (mae'n rhyfeddol fod tair o'i ferched wedi priodi dynion o swydd Henffordd). Yn y dyddiau hynny roedd rhan o boblogaeth y Mers yn gefnogol i Gymru tra 'roedd y lleill yn cefnogi Lloegr.

 

       Priododd Alys (merch hynna' Glyndŵr) Syr John Scudamore o Kentchurch Court yn y Golden Valley. Mae tŵr sylweddol yn rhan o adeiladwaith Kentchurch Court  sydd wedi'i enwi yn "Dŵr Glyndŵr". Mae ynddo ystafell sy'n dal cysylltiad hanesyddol gyda Glyndŵr ac, yn ôl yr hanes, mae ysbryd ynddi. Aeth criw teledu o HTV i recordio rhaglen yno yng nghwmni nifer o swyddogion Cymdeithas Owain Glyndŵr a gwrthododd aelod o'r criw fynd i mewn i'r ystafell gan ei fod wedi synhwyro fod ysbryd yno. Gwnaethom ymchwiliadau yn yr ardal a darganfod fod traddodiad lleol cryf yn cysylltu Owain Glyndŵr â Kentchurch Court. Mewn sgwrs gyda dyn lleol clywodd swyddog o'r Gymdeithas fod traddodiad lleol fod Owain yn byw yn y tŵr a bod ceffyl bob amser ger ffenestr ei ystafell yn barod i'w helpu id dianc pe bai milwyr yn dod ar gyfyl y lle. Dywedodd John Scudamore (disgynnydd i Glyndŵr) wrth Adrien Jones (Llywydd y Gymdeithas) fod traddodiad teuluol yn hawlio mai ym Monnington Straddel, tua 7 milltir o Kentchurch, mae bedd Owain.

 

       Mae portread trawiadol o hen ŵr i'w weld yn Kentchurch Court. Mae wynepryd heriol testun y portread yn syfrdanu'r gwyliwr. Mae rhai wedi tystio mai portread yw o Owain Glyndŵr yn hen ddyn. (gweler y paragraff isod am Alex Gibbon) ond tystiolaeth y teulu yw mai llun o Siôn Cent yw hwn. Bardd â chysylltiad agos gyda theulu Scudamore oedd Siôn Cent. Mae arddull Ffleminaidd y llun wedi awgrymu i rai mai gwaith Jan van Eyck yw'r portread, ond mae'r cofnod cyntaf sydd gennym amdano o'r flwyddyn 1422, a'r holl weithiau y gwyddom amdanynt yn deillio o'r cyfnod rhwng 1432 a 1439. Mae'r dyddiadau hyn yn tanseilio’r honiad mai van Eyck yw’r arlunydd

 

       Mae cryn ddryswch yn y cofnodion hanesyddol rhwng Monnington Straddel yn y Golden Valley a Monnington-on-Wye (mae pellter o 9 milltir rhyngddynt wrth deithio ar y ffordd fawr). Roedd Marged, merch Glyndŵr, yn briod â Syr Richard Monnington a oedd yn dal tiroedd yn Lawtons Hope a Sarnesfield. Roedd trydedd merch Glyndŵr, Sioned, yn briod â Syr John Croft o Gastell Crofft. Gallai Owain fod wedi teithio i wahanol gartrefi ei ferched yn ei ddyddiau olaf, ond Kentchurch oedd y lle mwyaf diogel o'r tri. Gan fod Bryn Lawtons Hope yn gorwedd rhwng Castell Crofft a Kentchurch Court, mae'n bosib fod Owain wedi marw wrth deithio o un i'r llall.

 

                    Ger Monnington Court ym Monnington Straddel mae mwnt sydd â thraddodiad cryf o fod y man lle claddwyd Owain. Mae'n safle gofrestredig ac yng ngofal English Heritage. Dyma'i disgrifiad ohono:

 

'Mae'r mwnt yn 3.4 metr o uchder, o ffurf hirgrwn gydag echel hir o 40 metr a'i gyfeiriadedd yn ogleddol-ddeheuol. Mae ffos yn dal i fod i'r gorllewin a'r gogledd ond mae wedi'i llanw ym mhobman arall. Mae'r mwnt yn gorwedd ar ochr ddwyreiniol o feili sydd bron yn sgwâr wedi'i amgylchynu gan gwter fâs gyda nant yn rhedeg drwyddi. Mae'n bosib fod y beili yn nodwedd naturiol wedi'i greu gan gwrs y nant ac os crëwyd beili fel rhan o gastell mae'i leoliad yn fwy tebyg o fod i'r gorllewin o'r mwnt islaw i adeiladau Monnington Court. Mae olion tirwedd cefnen a rhych yn y caeau sy'n amgylchyni'r mwnt.  Cofrestredig.'

       Tywyswyd Adrien Jones (Llywydd y Gymdeithas) i'r safle gan John Scudamore. Ymwelodd swyddogion y Gymdeithas â'r safle wedyn yng nghwmni'r newyddiadurwraig Collette Hume (sy'n hanesydd) ac fe gafodd y safle tipyn o sylw yn y Western Mail. Comisiynodd y Gymdeithas arolwg geoffisegol o 400 metr sgwâr o'r safle gan TerraDat o Gaerdydd yn y flwyddyn 2000. Nid oedd yr arolwg yn fewnwthiol ac ni fu cloddio. Datgelwyd olion adeilad cerrig petryalog yn mesur 10m. x 6m., a'i furiau yn fetr o drwch, o dan wyneb y mwnt. Roedd aliniad yr adeilad yn ogleddol-ddeheuol. Mae rhai wedi awgrymu mai tŵr oedd yn wreiddiol ond ei fod wedi'i ysbeilio dros y blynyddoedd, a'r cerrig wedi'i defnyddio i bwrpas arall. Datgelwyd nifer sylweddol o offer haearn yn y mwnt ond methwyd a darganfod beth oeddynt. Mae aliniad yr adeilad yn awgrymu mai nad capel oedd yno. Mae'r Gymdeithas yn ddyledus i Tony Carter, a arweiniodd yr ymchwil i'r safle.

 

       Ysgrifennodd Thomas Pennant : 'Dywedir ei fod ef (Owain Glyndŵr) wedi'i gladdu ym mynwent Monnington [Monnington-on-Wye], ond nid oes cofadail, nag unrhyw gofeb o'r man ei claddwyd".

 

       Mae'r hanesydd a chlerigwr Thomas Thomas, yn ysgrifennu am  Eglwys Monnington, Monnington-on-Wye yn 1822, yn dyfynnu dogfen Harl.M.S.S.6832 fel hyn:

 

'Tua 1680, ail-adeiladwyd yr eglwys. Yn y fynwent roedd boncyff masarnen, tua 9 troedfedd o uchder, diamedr dwy droedfedd a hanner; a gan ei bod yn ffordd y gweithwyr fe'i torrwyd i lawr. Yn union o'i tani, tua throedfedd o dan arwynebedd y tir,  roedd carreg fedd fawr heb ei hamsgrifio; ac wedi'i chlirio cafwyd ar y gwaelod bedd o garreg ac ynddi (fel y tybir) roedd corff Owain Glyndŵr; roedd yn gyfan a sylweddol ei faint. Ond nid oedd arwydd o unrhyw goffin . Pan gyffyrddwyd ag unrhyw ran ohono fe drodd yn llwch. Wedi bod heb ei orchuddio am ddau ddiwrnod gorchmynnodd Mr. Tomkins i ni osod y garreg drosto unwaith eto, ac yna i daflu'r pridd drosto.'

 

       Mae Chris Barber, awdur In Search of Owain Glyndŵr, yn cyfeirio at draddodiad lleol fod Owain wedi marw yn Chapel Cottage, ger Monnington Court. Mae'r enw'n awgrymu y gallai hwn fod yn gapel anwes yn gysylltiedig â'r eglwys agosaf yn Vowchurch. Mae Abaty Dore, Abaty Sistersaidd sefydlwyd yn 1147 ac ynghanol y Golden Valley, yn safle tebygol, (yn enwedig gan fod yr abaty yn meddu ar dir sylweddol yn y cwm, yn cynnwys safle presennol Monnington Court). Mae'n debyg felly bod cysylltiad rhwng yr adeilad a'r abaty.

Mae Trysorydd/Ysgrifennydd Aelodaeth y Gymdeithas, Dr John Hughes, wedi ysgrifennu nofel am ferch Glyndŵr - Glyndŵr's Daughter (gweler manylion isod**) a'i farn ef yw mai yng nghantref Maelienydd yng ngogledd-ddwyrain Powys fe'i claddwyd. Mae'r Athro Gruffydd Aled Williams wedi dyfynni feirdd y 15g fel Lewys Glyn Cothi, Robin Ddu, ac eraill sydd a'u gwaith yn awgrymu mae ym Maelienydd y treuliodd ei flynyddoedd olaf. Efallai ei fod wedi symud i gartref ei ferch, Gwenllïan, yn ei henaint.  Mae Athro Williams o'r farn, os claddwyd Owain yng Nghymru, mai ym Maelienydd mae ei fedd. Ysgrifennodd yr Athro lyfr ardderchog ar y pwnc, Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr, yn 2015 (manylion isod*) sydd yn diweddaru'r hanes. 

 

       Yn ei lyfr The Mystery of Jack of Kent and the Fate of Owain Glyndŵr mae Alex Gibbon yn hawlio bod corff Owain wedi'i gludo o swydd Henffordd a'i gladdu yn Eglwys Sant Gwrdaf, Llanwrda., Sir Gaerfyrddin. Mae hefyd yn hawlio, fel y gwnaeth nifer, fod y llun yn Kentchurch Court yn bortread o Owain Glyndŵr yn hytrach na Siôn Cent, a bod Owain wedi dieithrio fel Brawd Ffransisiaidd yn gweithio fel caplan i deulu Scudamore. Yn wir, mae'n hawlio fod Owain a Siôn Cent yn un person ac yn dadlau fod y dieithrio yn gyfrwng i ddiogelu Owain yn ei flynyddoedd olaf.

 

       Cafodd y Gymdeithas y fraint o gomisiynu darlith gan y diweddar Syr Rees Davies (Athro Chichelle yng Ngholeg yr Holl Eneidiau, Rhydychen bryd hynny) yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala. Ar ôl y ddarlith datgelodd yr Athro (y prif awdurdod ar hanes Glyndŵr) ei fod o'r farn mai yn un o'i gadarnleoedd yn y gogledd y treuliodd ei flynyddoedd olaf. Pwysleisiodd, serch hynny, nad oedd tystiolaeth ar gael i gadarnhau ei farn. Gwyddom fod Meirionydd wedi gwrthsefyll dylanwad coron Lloegr o leiaf tan farwolaeth Glyndŵr a byddai'n rhesymol, felly, iddo geisio lloches yno ymhlith ei gefnogwyr selog.

 

       Cafodd swyddogion y Gymdeithas gyfarfod gyda Dr Keith Ray, Archeolegydd swydd Henffordd, a'i farn ef oedd bod Owain bron yn sicr wedi'i gladdu mewn tir cysegredig, a bod o leiaf pedwar safle o fewn i'r sir lle y gallai fod yn gorwedd. Cadarnhaodd fod rhai cloddiadau wedi digwydd ar y mwnt ym Monnington Straddel ond, gan mai amaturiaid fu'n gyfrifol, nid oedd fawr o dystiolaeth ysgrifenedig ar gael. 

 

       Datgladdwyd gweddillion o faes parcio yng Nghaerlŷr yn ddiweddar, ac roedd gwyddonwyr fforensig yn argyhoeddedig (gyda sicrwydd o 99+%) mai gweddillion Rhisiart 111 (1452 - 1485) oeddynt. Mae'r fenter hon yn dangos grym rhyfeddol technegau dadansoddi geneteg (yn enwedig dadansoddi DNA mitochondriaidd) ac yn awgrymu y byddai'n bosib gwirio gweddillion honedig Glyndŵr pe'i darganfyddir. Mae'r offer dadansoddol ar gael i ddatgelu'r ateb i'r dirgelwch; y cwestiwn dadleuol, wrth gwrs, yw a ddylid ceisio chwilio am yr ateb.

 

*Dyddiau Olaf Glyndŵr   Gruffydd Aled Williams   Y Lolfa
ISBN 978-1-78461-156-9

 

**Gwenllian's Daughter    John Hughes     Y Lolfa
ISBN 978-1-84771-331-5